Ymddiriedolwraig yn dod â syniad newydd i Ganolfan Iechyd Meddwl Bangor

Catrin_Wager_Canolfan_Abbey_Road.jpg

Mae ymddiriedolwraig sydd wedi ei phenodi i fwrdd canolfan cefnogi iechyd meddwl Bangor yn Abbey Road yn falch iawn o'r gefnogaeth a ddangoswyd i unigolion sy’n chwilio am gymorth dros gyfnod y Nadolig.

Roedd y Cynghorydd Catrin Wager, sy'n cynrychioli trigolion Ward Menai, yn awyddus i gefnogi unigolion yn y Ganolfan, yn dilyn ei phenodiad i'r Bwrdd ddiwedd 2017. Cychwynnodd ymgyrch newydd i greu 'calendr adfent gwahanol', lle mae eitemau’n cael eu gosod mewn bocs bob dydd yn ystod y cyfnod hyd at y Nadolig, ac yna'n cael ei roi fel rhodd i berson sydd mewn angen.

“Dwi wedi’n syfrdanu gan y gefnogaeth sydd i’r ganolfan, nid yn unig i'r unigolion sy'n chwilio am gyngor a chefnogaeth ynglŷn â materion iechyd meddwl, ond hefyd gan y gefnogaeth a ddangosir gan y gymuned leol i'r staff yma hefyd.

“Mae pobl wedi bod yn du hwnt o garedig wrth gasglu nwyddau bob dydd trwy gydol mis Rhagfyr, gan ddod â'r bocsys i mewn i'r ganolfan ddiwedd Rhagfyr, ac sydd bellach yn cael eu dosbarthu i unigolion sy’n chwilio am gymorth.

“Gall rhai o'r bobl sy'n cael cymorth fod yn ddigartref, mae pobl eraill yn cael trafferth gyda materion iechyd meddwl, tra bod unigolion eraill yn gwella o gamddefnyddio sylweddau. Mae cynnig amrywiaeth o nwyddau, megis cardiau chwarae, deunydd ysgrifennu, sbectol, bwyd, dillad cynnes, plastr, cadachau gwrth-heintiad ac yn y blaen, wedi bod yn agoriad llygaid go iawn i mi a fy nheulu.

“Fe fuo ni’n meddwl o ddifri beth allai fod yn ddefnyddiol i bobl sy'n mynychu Canolfan Lôn Abaty yn rheolaidd. Dyma ni'n meddwl i ddechrau am bethau fel poteli shampw a hylifau ymolchi, ond os ydi rhywun yn ddigartref, y peth olaf maen nhw eisiau ydi cario poteli trwm mewn bag ar eu cefnau ddydd a nos, yn enwedig os nad oes ganddynt fynediad at gawodydd.

“Rydyn ni wedi cael cipolwg bach bach i fyd person digartref, rhywun sydd angen eitemau dyddiol sylfaenol. Mae'n gwneud i chi feddwl am yr heriau sy'n wynebu unigolion ledled Bangor a rhannau eraill o Wynedd sy'n byw gyda'r frwydr ddyddiol o ofalu amdanynt eu hunain heb y cysuron cartref rydyn ni’n ei chymryd yn ganiataol.

Yn ôl Meinir Evans, Rheolwraig Canolfan Lôn Abaty: “Rydym yn hynod falch bod y Cynghorydd Catrin Wager wedi ymuno â'n Bwrdd Ymddiriedolwyr yn ddiweddar ac mae eisoes yn profi'n amhrisiadwy gyda'i syniadau, ei chyfraniadau a'i chysylltiadau ardderchog. Roedd y Calendr Adfywio Advent yn brosiect ysbrydoledig ac mae llawer o'n defnyddwyr gwasanaeth wedi elwa o dderbyn amrywiaeth eang o eitemau defnyddiol a meddylgar.

“Ar ran ein holl Ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr ac yn enwedig defnyddwyr y gwasanaeth, hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser a'r ymdrech i gefnogi Catrin a Chanolfan Lôn Abaty, cafodd yr holl eitemau eu derbyn yn ddiolchgar ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r gymuned leol ar brosiectau tebyg yn y dyfodol,” meddai Meinir Evans.

Yn ôl y Cynghorydd Catrin Wager: “Hoffwn innau ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi'r ymgyrch. Rydych wedi gwneud gwahaniaeth i bobl sy'n chwilio am gefnogaeth gan gynnig llaw ofalus i'r unigolion yma yn ystod cyfnod trafferthus yn eu bywydau.

“Dwi’n ei theimlo hi’n fraint cael bod yn rhan fechan o’r criw sy’n cefnogi'r Ganolfan arbennig yma, a dwi’n edrych ymlaen at weithio ar lawer mwy o fentrau a phrosiectau gyda'r tîm yn ystod y misoedd nesaf.”

Mae Canolfan Lôn Abaty ym Mangor yn cynnig gwybodaeth a chyngor am bryderon iechyd meddwl, gan gynnig gwasanaethau cwnsela, sesiynau galw heibio a chyfarfodydd grŵp lleol sy'n rhoi cyfle i bobl siarad â’i gilydd. Cefnogir y Ganolfan gan Gyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae Canolfan Lôn Abaty yn gweithio gyda llawer o sefydliadau ar y safle, megis Cais, Parabl, Cruse Bereavment, Relate, Tŷ Gobaith, Eiriolaeth a llawer o asiantaethau eraill. I glywed am yr holl wasanaethau sydd ar gael, ewch i: www.abbeyroadcentre.co.uk


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd