Ysgol ddeintyddol ym Mangor fyddai’r “datblygiad naturiol nesaf” yn ôl Siân

Yn ôl cynrychiolydd Bangor yn Senedd Cymru, sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ym Mangor yw’r cam naturiol nesaf i’r ddinas.

 

Ers cael ei hethol yn 2016 mae Siân Gwenllian wedi gwneud yr ymgyrch dros ysgol feddygol i’r ddinas yn rhan ganolog o’i gwaith fel Aelod o’r Senedd dros Arfon, a hynny er mwyn hyfforddi meddygon y dyfodol yn y ddinas. Bu’r ymgyrch honno’n llwyddiannus yn y pen draw, ac mae wedi arwain at drafodaeth bellach am sefydlu Ysgol Fferylliaeth ym Mangor.

 

A rŵan, mae’r AS dros Arfon o’r farn y gellir datblygu statws Bangor fel Dinas Dysg trwy ddechrau hyfforddi deintyddion yn lleol.

 

Mewn trafodaeth gyda Lesley Griffiths AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Ogledd Cymru ar lawr y Senedd, honnodd Siân Gwenllian mai sefydlu ysgol o’r fath yw’r “datblygiad naturiol nesaf.”

 

Yn ôl Siân:

 

“Am y tro cyntaf erioed, mae modd gwneud cais ar gyfer cwrs is-raddedig yn ysgol feddygol newydd Prifysgol Bangor—newyddion ardderchog a fydd yn arwain maes o law at wella gwasanaethau iechyd yn y gogledd.

 

“Mae cynlluniau ar waith i greu ysgol fferylliaeth ym Mangor, sydd hefyd i'w groesawu, a'r datblygiad naturiol nesaf yw hyfforddi deintyddion yn lleol, ac mi fyddai Prifysgol Bangor yn leoliad delfrydol ar gyfer ysgol ddeintyddol newydd i Gymru.

 

“A wnewch chi gefnogi'r ymgyrch hon fel Gweinidog y gogledd, ac a wnewch chi ymuno efo mi i wneud yr achos i'r Gweinidog iechyd—yr achos dros ysgol ddeintyddol ym Mangor—gan adeiladu ar yr hyfforddiant meddygol sydd eisoes ar droed yn y ddinas?”

 

Yn y gorffennol mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon, sy’n cynnwys dinas Bangor wedi dadlau y byddai hyfforddi deintyddion yn y ddinas yn gymorth wrth geisio llenwi’r bylchau mewn gwasanaethau deintyddol yn lleol hefyd.

 

Atebodd Leslie Griffiths MS drwy ddweud y byddai “yn sicr yn cael trafodaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol” ac y byddai’n “awyddus iawn i unrhyw beth sy'n cael ei ystyried ar sail genedlaethol ddod i ogledd Cymru.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2023-10-09 16:49:55 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd