Apêl banciau bwyd: cynyddu’r targed

Ddechrau Rhagfyr, lansiwyd ymgyrch codi arian ar gyfer 8 prosiect bwyd yn ardal Arfon, Gwynedd.

Mae’r apêl wedi’i lansio gan Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS sy’n cynrychioli’r ardal yn y Senedd ac yn San Steffan. Yn y flwyddyn a aeth heibio, bu cynnydd sylweddol yn y defnydd o fanciau bwyd, ac yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell, rhoddwyd bron i dair miliwn o barseli bwyd i bobl a oedd yn wynebu anawsterau ariannol rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, mwy na dwbl y sawl a ddosbarthwyd yn ystod yr un cyfnod bum mlynedd yn ôl, a chynnydd o 37% o’i gymharu â’r llynedd.

 

Ond mae targed yr ASau wedi’i gynyddu, ar ôl iddynt gyrraedd y swm gwreiddiol yr wythnos ddiwethaf. Nid dyma’r tro cyntaf i’r gwleidyddion gynnal ymgyrch Nadolig o’r fath, a’r llynedd fe godwyd £4,765 tuag at fanciau bwyd yn yr etholaeth.

 

Wrth drafod yr apêl, dywedodd Siân Gwenllian:

 

“Mae’r apêl yn cael ei chynnal eleni ar adeg arbennig o bwysig. Gwta fis yn ôl mynegodd banc bwyd yng Nghoed Mawr yn fy etholaeth bryder am gostau a galw cynyddol.

“Roedd y gefnogaeth a gafodd yr apêl y llynedd yn aruthrol. Dwi’n siŵr mai tua £500 oedd y targed a osodwyd yn wreiddiol, ond roedd y cyfraniadau’n tyfu a thyfu.

“Rydan ni’n gobeithio efelychu rhywfaint o’r llwyddiant hwnnw ’leni, a chodi arian hanfodol i brosiectau bwyd ar draws yr etholaeth.

 

“Mae’r ffaith bod y rhan fwyaf o’r prosiectau hyn wedi’u sefydlu ers dechrau’r pandemig yn dangos pa mor ansicr oedd sefyllfa ariannol nifer o bobl, a sut bod teuluoedd prin yn goroesi o ddydd i ddydd.”

 

Y prosiectau fydd yn elwa o’r apêl fydd Banc Bwyd Arfon, Caernarfon, Banc Bwyd Coed Mawr, Bwyd i Bawb Bangor, Cynllun Bwyd Yr Orsaf, Penygroes, Porthi Dre, Caernarfon, Pantri Pesda, Bethesda, Cynllun bwyd Llanrug a Chwm-y-glo, a Banc Bwyd Eglwys Gadeiriol Bangor.

 

Mae Hywel Williams AS yn cynrychioli’r ardal yn San Steffan:

“Diolch i haelioni’r cyhoedd, yn ogystal ag ymroddiad gwirfoddolwyr, mae’r rhai sydd angen cymorth yn gallu rhoi bwyd ar y bwrdd y Nadolig hwn.

 

“Mae cefnogaeth y gymuned yn Arfon yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr. Gwn y bydd pobl leol yn dod i’r adwy ac yn  garedig yn eu cyfraniadau i’n hymgyrch eto eleni, a thrwy hynny’n sicrhau na fydd banciau bwyd lleol yn cael trafferth cynnig cymorth i bobl y Nadolig hwn.

 

“Mae’r Llywodraeth yn San Steffan yn parhau i ymosod ar y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas, ac o’r herwydd bydd mwy o bobl yn ddibynnol ar haelioni prosiectau bwyd.

“Serch hynny, gwn y bydd pobol Arfon yn gwneud eu rhan i gefnogi gwaith gwych y prosiectau hyn.”

 

Ychwanegodd Siân Gwenllian:

 

“Dwi’n falch fod Plaid Cymru ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn tlodi bwyd, wedi inni sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd erbyn 2024.

 

“Mae rhagor o waith i’w wneud, ond dwi’n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn chwarae rhan fechan yn yr ymdrech honno.”

 

Dylai'r sawl sy'n dymuno cyfrannu ddilyn y ddolen hon.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2023-12-18 12:29:29 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd