"Mae'r amser i drafod ar ben, mae bellach yn amser gweithredu." Dirprwyaeth o Nefyn yn cwrdd â'r Prif Weinidog.

Mae Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli Arfon yn y Senedd wedi trefnu dirprwyaeth rithiol o Nefyn i gwrdd â Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

Mae AS Arfon yn honni bod “yr amser i drafod ar ben” a’i bod hi “bellach yn amser gweithredu.”

 

“Gofynnais i’r Prif Weinidog gwrdd â dirprwyaeth o dref Nefyn sydd wedi bod yn cynnal ymgyrch effeithiol iawn o dan faner ‘Hawl i Fyw Adra.’

“Sbardunwyd yr ymgyrch gan y drafodaeth ddiweddar ynghylch yr Argyfwng Ail Gartrefi, a’r angen dybryd i wneud y stoc dai leol yn hygyrch i bobl leol unwaith eto.”

 

Bydd y cyfarfod rhithiol yn cael ei gynnal yng ngoleuni adroddiad diweddar a luniwyd ac a gyhoeddwyd gan Plaid Cymru yn honni bod dros draean o’r cartrefi a werthwyd yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf wedi’u prynu fel ail eiddo.

 

Mae'r adroddiad yn cynnig 5 cam i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi, sy’n cynnwys newid deddfau cynllunio, cyflwyno premiwm treth gyngor, cau bylchau, cyflwyno cynllun trwyddedu, a rhoi’r grym i gynghorau adeiladu tai ag amodau lleol arnynt.

 

Mae arolwg diweddar o farchnad dai Gogledd Cymru a gynhaliwyd gan NorthWalesLive yn cadarnhau canfyddiadau’r adroddiadau, ac mae’n datgelu bod bron i hanner y bobl a holwyd wedi dweud na allant fforddio prynu tŷ lle cawsant eu magu.

 

Mae Siân Gwenllian AS, sydd hefyd yn Weinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg wedi codi’r mater yn y Senedd heddiw.

 

“Edrychaf ymlaen at fynychu cyfarfod rhithiol rhwng y Prif Weinidog a chynrychiolwyr o ymgyrch Hawl i Fyw Adra yr wythnos nesaf.

 

Ond un peth yw cynnal cyfarfodydd a gwneud y synau cywir a dweud eich bod chi'n deall y broblem. Mae gweithredu i atal y cynnydd mewn ail gartrefi mewn cymaint o ardaloedd yng ngorllewin Cymru yn fater arall.

 

Mae Plaid Cymru wedi amlinellu rhai camau uniongyrchol y gellid eu cymryd.

 

Yn y Senedd cefais gyfle i ofyn a oedd y Llywodraeth yn bwriadu cymryd unrhyw gamau penodol i newid y gyfraith - o ran cynllunio neu gyllido - rhwng nawr ac ethol Senedd newydd ym mis Mai?

 

Yr ateb oedd NA - doedd dim digon o amser ac mae’r broses yn rhy gymhleth. Felly mae'n ymddangos na fydd unrhyw beth yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn, a'r unig ateb yw ethol Llywodraeth Plaid yn 2021."

 

Roedd y ffigyrau a fydd yn cyfarfod â’r Prif Weinidog ymhlith bron i 30 o gynghorwyr tref, ymgyrchwyr iaith a phobl leol a orymdeithiodd o Nefyn i Gaernarfon i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i ddatrys yr “argyfwng ail gartref”.

 

Mae Rhys Tudur, cynghorydd tref Nefyn sydd wedi bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch wedi siarad, gan ddweud fod;

 

“cymunedau Cymraeg yn marw ar eu traed, fel y tystir gan ganlyniadau'r cyfrifiad diweddaraf ac arolwg o'r iaith a ddefnyddir ar iard yr ysgol.

 

Bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar y bwriad i gael Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ogystal â'n hunaniaeth a'n arwahanrwydd fel cenedl."

Mae Mr Tudur wedi lleisio ei bryderon bod “y pwerau cyfredol a roddir i Gynghorau Sir yn gyfyngedig.”

 

“Byddaf yn pwyso ar Mr Drakeford i roi’r pŵer i gynghorau osod cyfraddau uwch dreth tir yn ogystal â gwneud newidiadau i’r gyfraith gynllunio i gyfyngu ar droi tai yn llety hunanarlwyo.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-11-20 14:49:29 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd