Siân Gwenllian
Hanes personol.
Rwy'n byw yn y Felinheli ble cefais fy magu. Euthum i'r ysgol i Fangor ac wedyn i brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Priodais Dafydd Vernon o Benygroes yn 1988 ond yn drist iawn, bu farw o ganser yn 1999 a bum yn magu ein pedwar plentyn ar ben fy hun. Tair oed oedd yr ieuengaf ar y pryd, a'r hynaf yn wyth. Erbyn hyn mae'r pedwar yn oedolion a dau ohonynt yn byw yn Y Felinheli. Mae fy mam yn byw ym Mhen Llyn - lle sydd yn agos iawn i'm calon.
Cefndir Proffesiynnol.
Ar ôl cwblhau gradd mewn daearyddiaeth, dilynais gwrs ôl-radd mewn newyddiaduriaeth a bum yn gweithio ym maes newyddion, materion cyfoes a chysylltiadau cyhoeddus. Bum yn gweithio i'r BBC, ITV, Golwg ac fel swyddog y wasg i Gyngor Gwynedd. Mae'r sgiliau newyddiadurol a ddysgais yn y cyfnod hwnnw yn werthfawr iawn ar gyfer fy ngwaith fel Aelod Cynulliad.
Cefndir Gwleidyddol.
Ymunais â Phlaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg tra'n ddisgybl ysgol. Yn y coleg, bum yn ymgyrchydd brwd dros yr iaith Gymraeg, dros gydraddoldeb menywod ac yn erbyn anghyfiawnder o bob math. Cefais fy ethol fel Dirprwy Lywydd Urdd Myfyrwyr Aberystwyth yn 1977.
Bum yn gynghorydd cymuned ac yn lywodraethwr ysgol ac yn weithgar mewn llu o fentrau cymunedol cyn cael fy ethol i Gyngor Gwynedd yn 2008. Bum yn arwain ar y Cabinet ar faterion cyllid ac wedyn addysg, plant a phobl ifanc. Yn ayn 2016 cefais fy ethol i Senedd Cymru i gynrychioli'r bobl y cefais fy magu yn eu plith yn Arfon a dwi'n cyfrif hynny yn fraint mawr hyd heddiw.
Prif Ddyletswyddau.
- Dirprwy Arweinydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru a'r Trefnydd Busnes/Prif Chwip
- Gweithidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg a'r Gymraeg
- Cyfarwyddydd Cyfathrebu ar Bwyllgor Gwaith Plaid Cymru
- Aelod o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Busnes y Senedd
- Cyd-gadeirydd Grwp Traws-Bleidiol Menywod y Senedd
Ffaith ddiddorol amdanoch?
Mae gen i gi defaid blewyn-coch Cymreig o'r enw Mali.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter