AC Arfon yn croesawu technoleg Dementia-gyfeillgar

AC Arfon yn croesawu technoleg Dementia-gyfeillgar ar dreial mewn canolfan arddio leol. 

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian wedi croesawu menter newydd yn seiliedig ar dechnoleg sy'n cael ei threialu yng Nghanolfan Arddio Fron Goch sy'n hyrwyddo byw'n annibynnol ymhlith pobl sy'n dioddef o dementia neu sy'n dibynnu ar ofalwyr.

Mae technoleg Wandersafe yn cael ei threialu yng Nghanolfan Arddio Fron Goch, Caernarfon fel rhan o fenter gan Arloesi Gwynedd Wledig. Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd. 

Mae'r system yn caniatáu i bobl sy'n byw gyda dementia neu sydd ag anabledd dysgu, gerdded o amgylch y ganolfan arddio ar eu pennau eu hunain, gan ddarparu tawelwch meddwl i'w gofalwr / gofalwyr eu bod yn ddiogel bob amser.

Cafodd AC Arfon Siân Gwenllian arddangosiad o sut mae'r system yn gweithio yn ystod ymweliad â Chanolfan Arddio Fron Goch yr wythnos hon.

 

Dywedodd Siân Gwenllian AC,   

‘Roeddwn yn falch o weld sut mae’r system newydd ac arloesol hon yn gweithio, gan roi’r rhyddid a gollir mor aml o ganlyniad i’r salwch, yn ôl i gleifion dementia a’u gofalwyr.’ 

‘Mae’r ymdeimlad hwnnw o golli annibyniaeth rhywun a gorfod dibynnu ar eraill yn aml yn cael ei enwi fel un o agweddau mwyaf gwanychol y salwch. Dyna pam bydd systemau technoleg newydd fel hyn yn helpu dioddefwyr a’u gofalwyr i adennill hyder o ddydd i ddydd.’ 

‘Hoffwn ddiolch i Arloesi Gwynedd Wledig am eu gwaith ar y prosiect hwn ac i Ganolfan Arddio Fron Goch a’u staff am gytuno i fod yn rhan o’r treial. Mae’r ddau yn haeddu canmoliaeth am wneud y cysyniad arloesol hwn yn realiti.’ 

‘Os bydd y treial yn llwyddiannus, rwy’n gobeithio y bydd y system hon yn cael ei chyflwyno ledled Arfon, gan alluogi pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr i fynd o gwmpas eu bywydau beunyddiol gyda sicrwydd ychwanegol.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd