AC Arfon yn galw am ymchwiliad annibynnol i fethiannau Bwrdd Iechyd

Cleifion fasgwlaidd wedi eu twyllo gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr meddai AC lleol.

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon Siân Gwenllian wedi galw am ymchwiliad cynhwysfawr ac annibynnol i wasanaethau fasgwlaidd yng ngogledd Cymru, yn dilyn adroddiad damniol sy’n dweud nad oes gan gleifion unrhyw hyder ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Mae adroddiad gan Gyngor Iechyd Cymunedol gogledd Cymru (CIC) wedi nodi cyfres o feirniadaethau damniol o’r Bwrdd Iechyd, o gleifion sydd â gormod o ofn defnyddio’r gwasanaeth fasgwlaidd, i rai cleifion yn dweud na chawsant unrhyw ofal yn dilyn llawdriniaeth.

Mae'r adroddiad yn cynnwys beirniadaethau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan gleifion, eu teuluoedd a staff y bwrdd iechyd.

Mae Siân Gwenllian AC wedi galw am ymchwiliad brys a hollol annibynnol i fethiant y Bwrdd Iechyd o ran gwasanaethau fasgwlaidd.

 

Dywedodd Siân Gwenllian AC,

‘Dyma adroddiad gwirioneddol ddamniol. Daw â thystiolaeth frawychus i’r wyneb gan gleifion, eu teuluoedd a staff y Bwrdd Iechyd ynghylch methiannau difrifol mewn gofal fasgwlaidd yng ngogledd Cymru.’   

‘O gleifion a gafodd eu twyllo ynglŷn â chadw gwasanaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd, i deuluoedd a chleifion o dde Meirionnydd a orfodwyd i aros mewn gwestai i gael mynediad at driniaeth angenrheidiol.’

‘Mae’r adroddiad yma yn ategu yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod; mae pobl wedi cael eu twyllo o'r cychwyn cyntaf.’ 

‘Dywedwyd y byddai'r gwasanaeth achub coesau a fasgwlaidd brys yn aros yn Ysbyty Gwynedd. Nid yw hyn yn wir, ac mae’r gwasanaeth presennol yn wahanol iawn i’r hyn a addawyd.’ 

‘Rwyf wedi dadlau’n gyson yn erbyn israddio gofal fasgwlaidd yn Ysbyty Gwynedd, gan wybod y byddai diogelwch cleifion yn cael ei beryglu.’ 

‘Mae’r adroddiad hwn yn ymhelaethu ar fy mhryderon a dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae methiannau difrifol pellach wedi dod i’r wyneb, pob un yn peryglu diogelwch cleifion.’ 

‘Mae arnom angen ymchwiliad cwbl annibynnol a thryloyw i ofal fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bydd yn ddyletswydd ar y Bwrdd wedyn i gyhoeddi’n llawn yr holl dystiolaeth sy’n ymwneud â’r methiannau difrifol hyn sy’n peryglu bywydau cleifion.’


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd