ACau Plaid Cymru yn cyfarfod myfyrwyr nyrsio Bangor yng ngwyneb toriadau

Bangor_School_of_Health_Sciences.jpg

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon Siân Gwenllian a Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Helen Mary Jones AC wedi cyfarfod â myfyrwyr a darlithwyr Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wrth i bryderon gynyddu ynghylch toriadau i adran ddarlithio nyrsio arbenigol yn y brifysgol.

Mae myfyrwyr nyrsio a darlithwyr wedi cysylltu â Siân Gwenllian AC yn mynegi pryder y bydd bygythiad i gwrs nyrsio anabledd dysgu yn arwain at ddirywiad yn narpariaeth hyfforddiant nyrsio arbenigol a’r effaith hir-dymor ar unigolion ag anableddau dysgu ar draws gogledd Cymru, a hynny wrth i’r galw am nyrsus anableddau dysgu gynyddu.

Mae pryderon wedi eu lleisio hefyd am effaith y fath doriadau ar fyfyrwyr sy’n dymuno astudio’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, a chynaladwyedd dysgu ar draws campws Bangor a Wrecsam os gweithredir y toriadau.

Dywedodd Siân Gwenllian AC a Helen Mary Jones AC,

'Fe wnaethom gyfarfod â myfyrwyr nyrsio a staff Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor sydd wedi mynegi pryderon dwys ynghylch bygythiad i gwrs nyrsio anabledd dysgu oherwydd toriadau yn y Brifysgol.'

'Ar adeg pan mae arnom angen llawer mwy o nyrsus yn y gogledd i lenwi cannoedd o swyddi gwag, mae'r bygythiad hwn i hyfforddiant a chymorth dwyieithog ein darparwyr gofal iechyd rheng flaen yn bryder mawr.'

'Mae gan bobl ag anabledd dysgu yr un hawliau mynediad at wasanaethau fel y boblogaeth gyffredinol. Os caiff hyfforddiant nyrsus ei israddio mewn unrhyw ffordd, bydd hyn yn sicr yn cael effaith ar ddarpariaeth hirdymor gwasanaethau rheng flaen.'

'Rydyn ni'n sôn yma am ddadfuddsoddi sylweddol mewn gwasanaeth sy'n cefnogi un o'r grwpiau mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae torri adnoddau yn dorri ar y gallu i ddarparu gofal digonol.’

‘Mae’r cynnig yma yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru i gynyddu’r nifer o nyrsus ar draws Cymru. Sut gallwn adeiladu ar ein gwasanaeth nyrsio arbennig pan fo’r rheiny sy’n gyfrifol am eu hyfforddi yn cael eu tanseilio yn y fath ffordd?’

‘Felly mae’n hanfodol bwysig fod y ddarpariaeth bresenol yn cael ei gynnal ym Mangor ac ar draws gogledd Cymru fel bod iechyd a lles ein dinasyddion mwyaf bregus yn cael ei wwarchod.’

‘Byddwn yn codi’r mater yma gyda Cadeirydd Cyngor y Brifysgol ynghyd a’r Ysgrifenydd Cabinet dros Iechyd yn Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething er mwyn pasio pryderon ein hetholwyr ymlaen.’

‘Rydym yn hynod ddiolchgar i’r myfyrwyr a’r staff am ddod a’r mater pwysig yma i’n sylw a byddwn yn mynd ar ôl hyn fel mater o frys.’

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd