Aelod Cabinet yn gwrthod cwrdd ag Aelod Cynulliad dros bryderon am waharddiadau pysgota ar afonydd Cymru

sian_rhun_pysgod.jpg

Mynegodd Aelod Cynulliad Arfon ei syndod a’i siom o glywed fod Lesley Griffiths AC ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi gwrthod ei chais am gyfarfod parthed yr is-ddeddfau pysgota newydd, a fydd, os cant eu cymeradwyo, yn dod â nifer o waharddiadau pysgota arwyddocaol i’r rhan fwyaf o afonydd Cymru.

“Mae’n fy nharo i fel peth rhyfedd iawn pan mae Aelod Cynulliad yn gofyn am gyfarfod gydag aelod o’r cabinet ynghylch sefyllfa sydd o bryder mawr i nifer o etholwyr, a bod y cais hwnnw’n cael ei wrthod”, meddai Siân Gwenllian. “Mae pryder mawr ymhlith y gymuned pysgota yn Arfon a Môn ac ar hyd a lled Cymru ynglŷn â’r is-ddeddfau sy’n cael eu cynnig. Mae dwy ddeiseb sy’n galw am graffu pellach ar sefyllfa ac sy’n mynd gerbron pwyllgor deisebau’r cynulliad yn Ebrill yn ennill cefnogaeth gynyddol. Mae pysgota yn weithgaredd hamdden a diwylliannol gwerthfawr iawn heb sôn am fod yn ffordd o fyw i nifer ac yn elfen bwysig o’n diwydiant twristiaeth. O ystyried bod pysgota yn adnodd mor bwysig o ran ei werth gymdeithasol ac economaidd, mi fyddai cyfraniad i’r drafodaeth gan yr aelod cabinet sydd yn gyfrifol yn werthfawr iawn i fi ac i Rhun ap Iorwerth fel ein bod yn gallu cyfleu rhai o’r pryderon sydd wedi cael eu mynegi i ni.”
Mae Siân Gwenllian a Rhun ap Iorwerth eisoes wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o’r ymgyrch i wrthwynebu’r is-ddeddfau a datblygu strategaeth ddiwygiedig a fyddai’n cynnal y stoc pysgod a chymunedau pysgota Cymru. Fe gefnogir yr ymgyrch gan yr Angling Trust a’r Ymgyrch Dros Warchod Pysgodfeydd Cymreig, ymhlith eraill. Mewn cyfarfodydd lleol fe fynegwyd pryderon mawr am effeithiau posib yr is-ddeddfau a fyddai yn eu tro yn effeithio ar ddyfodol y cydweithio cadarnhaol sy’n digwydd ar afonydd ac ar y rhan hanfodol mae pysgota yn ei chwarae wrth hybu buddiant, lles a chynaladwyedd nifer o elfennau economaidd cefn gwlad.
Mae’r rhai sydd tu ôl i’r ymgyrch dros graffu ymhellach addasrwydd yr is-ddeddfau yma yn cydnabod bod lleihad wedi bod mewn stoc pysgod yn ein hafonydd. Ers degawdau bellach mae pysgotwyr wedi bod yn ceisio datblygu ffyrdd blaengar o fewn eu clybiau a’u cymunedau pysgota er mwyn ceisio datrys y sefyllfa.
“Mae pysgotwyr yn cael eu targedu yn annheg dros y lleihad mewn stoc pysgod”, meddai Reuben Woodford, o Grŵp Ymgynghorol Pysgodfeydd Lleol sy’n cynrychioli pysgotwyr yr Afon Ogwen ac yn siarad ar ran yr ymgyrch. “Mae yna lawer o ffactorau sydd yn cyfrannu at y lleihad mewn pysgod yn ein hafonydd ac nid oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru strategaeth gref i ddelio â hyn. Mae newid hinsawdd yn bendant yn cyfrannu at y sefyllfa, yn enwedig yn achos eogiaid gan nad ydi hinsawdd gynnes yn cynorthwyo eu goroesiad tymor hir, ac mae’r anghysondebau mewn glawiad dros y blynyddoedd diwethaf wedi dod â heriau newydd. Mae colli cynefinoedd a silfeydd magu ynghyd â phroblemau difrifol gydag ansawdd dŵr ac achosion o lygredd yn golygu bod yr eogiaid yn mudo i lefydd ble mae hi’n anodd iddyn nhw oroesi. Hefyd mae gan nifer o afonydd rwystrau i fudo – argaeau, er enghraifft – ble mae pysgod yn gallu cael eu harafu ar eu taith. A hwythau wedi eu rhwystro ar eu siwrna maen nhw wedyn mewn peryg o fod yn ysglyfaeth i greaduriaid eraill gan gynnwys adar sydd yn byw ar bysgod, sydd â’u poblogaeth yn cynyddu’n gyson.
“Fel ymgyrch rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth wych rydym wedi ei derbyn gan gymunedau ar hyd a lled Cymru. Mae dwy ddeiseb wedi eu lansio ac wedi derbyn cefnogaeth sylweddol, sydd ddim yn syndod o gofio bod 83% o’r rhai a ymatebodd i ymgynghoriad CNC ar reolaeth stoc pysgod wedi mynegi anfodlonrwydd gyda’r canfyddiadau sydd wedi arwain at gynnig yr is-ddeddfau sydd dan sylw gan Lywodraeth Cymru.”
Medd Siân Gwenllian, “Mae pysgota yn weithgaredd braf a buddiol i nifer fawr o bobol a’r neges rydw i’n ei chlywed yn glir gan fy etholwyr yw nad ydi Llywodraeth Cymru wedi gwrando’n ddigonol ar bryderon pysgotwyr. Dylai unrhyw fesurau sydd yn cael eu datblygu i reoli stoc pysgod ddigwydd mewn partneriaeth ag eraill, ac mae’r ffaith i Lesley Griffiths AC wrthod cyfarfod â ni yn mynd yn gwbwl groes i’r egwyddor honno.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd