Aelod Cynulliad Arfon yn llongyfarch aelod newydd Senedd Ifanc Arfon

Sian_a_Brengain_(Senedd_Ieuenctid).jpg

Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Arfon yw Brengain Glyn Williams o’r Felinheli, ac fe ymgyrchodd hi ar faniffesto o ehangu’r Gymraeg o fewn cymdeithas, sicrhau fod Hanes Cymru ar y cwricwlwm a dros gael tocyn teithio trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc.

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddwyd enwau’r 60 o bobl ifanc ar draws Cymru sydd wedi eu hethol i gynrychioli ieuenctid Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru. Bu cannoedd o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed yn sefyll fel ymgeisyddion yn eu hetholaethau gan ymgyrchu ar y materion sydd o bwys iddyn nhw, a bu pobol ifanc eraill o’r un oed yn cofrestru i bleidleisio dros eu dewis nhw, ar sail maniffesto bersonol.

Mae Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllian - hefyd o’r Felinheli - wedi croesawu’r Senedd newydd yma gan y bydd yn rhoi llais i bobl ifanc ar faterion sydd o bwys iddynt ac sydd yn berthnasol i’w bywydau.

“Rydw i’n hynod o falch fod merch leol o mhentref i wedi ei hethol i’r Senedd,” meddai Sian Gwenllian, “ac rydw i’n edrych ymlaen at gyd-weithio efo hi dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o’r hyn sydd yn bwysig i bobl ifanc – yr heriau maen nhw’n eu hwynebu, a’r hyn yr hoffent weld yn dod yn bolisi yn ein Senedd yng Nghaerdydd.

“Yn yr etholiad Cynulliad nesaf yn 2021 mi fydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf, felly mae cael Senedd Ieuenctid gyda chynrychiolaeth o bob rhan o Gymru yn gam allweddol at feithrin diddordeb ac ymwybyddiaeth pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth.

Rydw i’n estyn fy llongyfarchion gwresog i Brengain, ac mae’r materion mae hi wedi ymgyrchu arnyn nhw yn rai sydd o ddiddordeb mawr i mi, a byddaf yn trafod efo hi i weld beth y gellid ei wneud i wireddu rhai o’i hamcanion hi yn y meysydd yma.”

Mae Brengain Glyn Williams yn ddisgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Tryfan a’i phynciau dewisol ydi Hanes, Addysg Grefyddol ac Addysg Gorfforol, ac mae hi wedi ymddiddori mewn gwleidyddiaeth a’r hyn sydd yn mynd ymlaen o’i chwmpas ers blynyddoedd. “Dwi’n edrych ymlaen yn ofnadwy at gael trafod pob math o faterion pwysig efo fy nghyd-aelodau,” meddai Brengain Glyn Williams. “Rydan ni’n cael cyfarfodydd rhanbarthol ym mis Ionawr ac wedyn yn cyfarfod fel Senedd gyfan yng Nghaerdydd - mae’n gyffrous iawn!

“Mi ges i wybod mod i wedi cael fy newis i gynrychioli Arfon wythnos cyn y cyhoeddiad swyddogol, ac roedd peidio gallu dweud wrth neb mor anodd! Dim ond wrth fy rhieni nes i ddweud – doedd hyd yn oed fy mrawd ddim yn gwybod tan diwrnod y cyhoeddi. Rydw i wedi ymddiddori mewn materion cyfoes erioed, ond mae fy mrawd yn astudio Gwleidyddiaeth yn y Brifysgol, felly mae fy niddordeb wedi cynyddu yn sgil hynny.

“Unwaith nes i weld bod yna’r fath beth a Senedd Ieuenctid Cymru a chyfle i sefyll i fod yn aelod, ro’n in gwybod syth bin mod i isho trio. Roedd fy ffrindiau i gyd yn gefnogol ac yn meddwl ei fod o’n syniad da, ac roeddwn i’n teimlo bod hyn yn gyfle gwych i gael trio gwneud cyfraniad a trio gwella bywyd yng Nghymru, Does dim llawer o gyfleoedd i wneud hynny, felly roeddwn i’n gwybod o’r dechrau mod i isho trio. Ond doeddwn i ddim yn disgwyl ennill chwaith! Dwi’n ddiolchgar iawn i bawb ddaru bleidleisio drosta’i, ac am gefnogaeth ffrindiau a theulu. Dwi’n edrych mlaen rŵan at ddechrau arni!”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd