AirBnB yn ildio i bwysau’n lleol ac yn gohirio archebion gwyliau yn ystod y cyfnod ymneilltuo cymdeithasol.

AS lleol yn croesawu’r penderfyniad ond yn mynnu bod yn rhaid canslo'r holl archebion presennol.

Mae AS Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams, wedi croesawu penderfyniad Airbnb i roi’r gorau i gymryd archebion mewn ymateb i bwysau cyhoeddus.

Mewn llythyr at Hywel Williams AS, dywedodd y wefan archebu llety gwyliau ‘na fydd modd archebu gwyliau ar Airbnb yn y DU yn ystod y cyfnod o ymbellhau cymdeithasol presennol o 9yb heddiw ymlaen.'

Mae hefyd wedi rhoi cyfyngiadau ar gyhoeddiadau gan gynnwys y termau ‘COVID’ ‘Coronafeirws’, a ‘cwarantîn’ yn dilyn llythyr gan Hywel Williams AS ar ran Plaid Cymru ar 7 Ebrill.

 

Dywedodd Hywel Williams AS,

'Er ei fod yn hen bryd i’r datganiad hwn gael ei wneud, rwy'n croesawu penderfyniad Airbnb i roi'r gorau i gymryd archebion o heddiw ymlaen.'

'Rydyn ni'n gwybod mai aros gartref yw'r ffordd orau i’n hamddiffyn rhag y Coronafeirws felly heb os, bydd y cyhoeddiad hwn yn achub llawer o fywydau.'

‘Rwyf hefyd yn croesawu eu penderfyniad i wahardd rhestru teitlau lletyau sy'n cyfeirio at ‘COVID’, ‘coronafeirws neu ‘cwarantîn’, rhywbeth yr oedd Plaid Cymru wedi galw amdano yn ein llythyr.'

'Roedd llawer o berchnogion wedi bod yn hysbysebu eiddo yng nghefn gwlad Cymru yn ddi-hid fel ‘encilion diogel’ gan roi pwysau ychwanegol ar gymunedau a gwasanaethau sydd eisoes mewn perygl.'

‘Yn awr, mae’n rhaid i Airbnb eithrio’n barhaol hysbysebion llety gan berchnogion sy'n parhau i ddiystyru’r rheolau.' 

'Mae Plaid Cymru hefyd yn galw ar Airbnb i fynd gam ymhellach a gwneud y peth iawn trwy ganslo pob archeb, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u harchebu ar gyfer penwythnos y Pasg.'

'Os na fydd hynny’n digwydd, rwy'n ofni y gwelwn filoedd yn fwy o heintiau yng nghefn gwlad Cymru y gellir fod wedi eu hosgoi.'

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd