Angen i Lywodraeth Cymru "gadw eu llygaid ar y bêl" os ydynt o ddifrif am adennill ymddiriedaeth ein pobl ifanc, meddai Plaid Cymru

Mae Gweinidog Cysgodol dros Addysg Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynllunio ymlaen llaw a dangos arweinyddiaeth go iawn er mwyn pobl ifanc.

Os yw'r Llywodraeth am adennill ymddiriedaeth pobl ifanc, mae'n rhaid iddynt gynllunio ymlaen llaw a darparu arweiniad go iawn, meddai Ms Gwenllian.

 

Meddai Siân Gwenllian AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg,

 

"Bydd y dyddiau a'r wythnosau nesaf yn anhygoel o anodd i bawb wrth iddynt ddod i arfer â'r 'normal newydd', ond rwy'n hyderus y bydd penaethiaid yn ymdrin â'r problemau cychwynnol anochel cyn gynted â phosibl ac y bydd y ffocws yn troi at les y disgyblion, rhoi sylw i'w hanghenion addysgol a chanfod unigolion a fydd ag angen cefnogaeth ychwanegol.

 

"Yn y cyfamser, mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar y misoedd o'u blaen a chadw eu llygad ar y bêl os ydynt o ddifrif am adennill ymddiriedaeth ein pobl ifanc.

 

"Mae angen i'r Gweinidog Addysg dawelu meddyliau disgyblion, rhieni a staff yn ein hysgolion a'n colegau â chynlluniau datblygedig i ymateb i unrhyw darfu ar addysg yn y dyfodol a allai ddigwydd pe bai angen mwy o gyfyngiadau symud dros fisoedd y gaeaf.

 

"Mae angen arweinyddiaeth genedlaethol hyderus, canllawiau clir a phenderfyniadau cynnar i adfer hyder disgyblion, rhieni a'r sector addysgol. Er enghraifft:

 

  • Mae angen gwneud penderfyniadau cynnar am ddefnyddio graddau asesu canolfannau yn hytrach nag arholiadau ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11 ac 13;
  • Mae'n rhaid i'r Llywodraeth flaenoriaethu gwella dysgu o bell ar-lein, gan gynnwys gwersi byw, yn ogystal â sicrhau bod gan bob disgybl y cyfarpar a'r cysylltedd gofynnol;
  • Mae angen i'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Iechyd weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod digon o adnoddau a chefnogaeth i anghenion iechyd meddwl rhai disgyblion (a fydd yn dod i'r amlwg wrth iddynt ddychwelyd i ysgolion a cholegau);
  • Mae angen arweiniad clir ynglŷn â chyfyngiadau symud lleol, ac mae angen cefnogi ysgolion i hwyluso dysgu o bell os bydd angen cyfyngiadau symud lleol.

 

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru osgoi'r camgymeriadau y maent wedi'u gwneud hyd yn hyn – y ffiasgo arholiadau, bwrw'r cyfrifoldeb am orchuddion wyneb, cyhoeddi ailagor ysgolion am 4 wythnos heb sicrhau caniatâd yr Undebau ymlaen llaw. Byddant yn wynebu craffu manwl."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd