"Ymwelwch â Chymru yn Nes Ymlaen " i ysgafnhau pwysau ar wasanaethau cyhoeddus - Adam Price.
Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price heddiw wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi deddfwriaeth frys ar waith i orfodi gwaharddiad llawn ar deithio i Gymru heb ganiatâd swyddogol neu reswm dilys, cyn penwythnos y Pasg.
Dywedodd Adam Price fod cynrychiolwyr Plaid Cymru yn cael toreth o adroddiadau am bobl yn cyrraedd eu hail gartrefi neu lety gwyliau yng ngogledd a gorllewin Cymru, gan chwyddo’r boblogaeth leol a rhoi mwy fyth o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus sydd eisoes wedi cyrraedd pen eu tennyn.
Ychwanegodd, tra bod yr heddlu eisoes yn gwneud gwaith eithriadol wrth gynnal gwiriadau ar hap a throi pobl yn ôl os ydynt yn teithio’n ddiangen, y dylid hybu eu pwerau a’u hadnoddau er mwyn cryfhau’r ymdrechion hyn.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price:
"Nid yw’r neges fod hwn yn argyfwng cenedlaethol yn cyrraedd. Mae adroddiadau yn dod o bobman am bobl yn torri’r canllawiau yn ddi-hid ac yn teithio’n ddiangen i’w hail gartrefi cyn gwyliau’r Pasg.
"Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth frys i osod gwaharddiad llawn ar deithio i Gymru heb ganiatad swyddogol neu reswm dilys. Dylai hyn gynnwys trefniadau ychwanegol i helpu i atal unrhyw deithio diangen y tu mewn i Gymru neu trwy gludiant rhyngwladol.
"Byddai hyn yn golygu gosod rhwystrau ar yr holl brif ffyrdd yn ogystal â gwiriadau yn yr holl orsafoedd bysus a rheilffyrdd mawr, ac eithrio am gerbydau argyfwng a masnachol a allai deithio mewn lonydd cyflym dynodedig. Mae mesurau tebyg wedi eu cyflwyno yn Awstralia, er enghraifft, lle mae gwaharddiad ar deithio rhwng y taleithiau.
"Mae’r heddlu eisoes yn gwneud gwaith eithriadol wrth gynnal gwiriadau ar hap a throi pobl yn ôl pan welir eu bod yn teithio yn ddiangen. Fodd bynnag, mae arnynt angen mwy o bwerau ac adnoddau er mwyn medru cynyddu’r ymdrech hon.
"Cymru yw un o’r cenhedloedd mwyaf croesawgar yn y byd. Mae ein heconomi yn manteisio ar dwristiaeth, sy’n dod â miliynau o bunnoedd y flwyddyn i ni. Fodd bynnag, mae’r cyfnod hwn yn un na welwyd ei fath o’r blaen. Mae unrhyw gynnydd yn y boblogaeth ar hyn o bryd yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus sydd eisoes yn gwegian ac sy’n gwneud eu gorau i achub bywydau.
"Fe ddaw amser pan fedr pobl unwaith eto fwynhau’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig. Ond ar hyn o bryd, all ein neges ddim bod yn gliriach - Ymwelwch â Chymru yn Nes Ymlaen."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter