AS Plaid Hywel Williams yn galw ar y Deyrnas Unedig i wahardd gwerthu nwy dagrau a bwledi rwber i'r Unol Daleithiau

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru ar gyfer Arfon Hywel Williams wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab i alw ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi stop ar unwaith ar werthu nwy dagrau a bwledi rwber i'r Unol Daleithiau, neu wynebu'r risg o fod yn gyfrannog mewn trais pellach.  

Mae ymyriad Mr Williams yn dilyn cynnydd mewn tensiwn ledled UDA lle mae protestwyr heddychlon wedi cael eu gormesu’n filain gan heddluoedd ar ôl llofruddiaeth George Floyd gan yr heddlu. 

Dywedodd Mr Williams y dylai llywodraeth y Deyrnas Unedig ddilyn esiampl gweinyddiaethau blaenorol drwy atal gwerthu nwy dagrau a bwledi rwber i wledydd sy'n eu camddefnyddio, fel a ddigwyddodd yn ystod trais yn Hong Kong flwyddyn yn ôl.

Meddai Hywel Williams AS,

'Dros yr wythnos ddiwethaf, mae pobl ledled y byd wedi gwylio digwyddiadau yn yr Unol Daleithiau mewn arswyd, lle mae heddluoedd wedi gormesu protestwyr heddychlon yn filain ar ôl llofruddiaeth George Floyd gan yr heddlu.'

‘Yr wythnos yma, mae'r Ysgrifennydd Tramor wedi disgrifio'r trais yn erbyn protestwyr Mae Bywydau Duon o Bwys fel ‘trallodus’, ‘sobreiddiol a gofidus’ ond ni ddywedodd pa gamau y bydd y llywodraeth yn eu cymryd fel ymateb.’

‘Mae'n rhaid i lywodraeth y Deyrnas Unedig gondemnio yn glir y modd y mae'r Arlywydd Trump wedi defnyddio grym yn erbyn ei ddinasyddion ei hun, gan gynnwys bygwth y bydd milwyr yn eu lladd. Drwy fod yn dawel yn wyneb camddefnydd grym mor amlwg, byddai’n gyfrannog.’

‘Dylai'r llywodraeth, ar unwaith, rewi pob trwydded i allforio cyfarpar heddlu a diogelwch i'r Unol Daleithiau lle ceir risg clir o gamddefnydd pellach.’

‘Fel y mae Amnest Rhyngwladol, ymysg eraill, wedi'i nodi, mae cofnodion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dangos eu bod yn caniatáu trwyddedau allforio gwerth miliynau o bunnoedd i werthu nwy gwrth-dorf, cyfarpar terfysg, bwledi rwber ac arfau eraill i'r Unol Daleithiau.’

‘Mae canllawiau allforio arfau a gyflwynwyd yn 1997 yn dweud na ddylid cymeradwyo trwyddedau os gellid defnyddio'r cyfarpar ar gyfer ‘gormes mewnol’ neu os gallai ‘bryfocio neu estyn gwrthdaro arfog neu waethygu tensiynau yn y wlad gyrchfan’.

'Mae’n ddyletswydd ar y llywodraeth i sicrhau nad yw'r Deyrnas Unedig – yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol – yn cyfrannu at ormes mewnol yn yr Unol Daleithiau.'


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd