AS yn galw am ymchwiliad i bryderon am fesurau diogelwch Cofid ar drenau TfW

Argyfwng Cofid yn amlygu yr anghyfartaledd mewn buddsoddi yn rheilffyrdd Cymru.

Mae AS Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams wedi galw ar lywodraeth Cymru i ymchwilio ar frys i bryderon ynghylch effeithiolrwydd mesurau diogelwch Covid ar drenau Trafnidiaeth Cymru sy’n gweithredu ar hyd prif reilffordd arfordir gogledd Cymru. 

Mae Mr Williams wedi derbyn cwynion gan etholwyr sy'n disgrifio amodau ar wasanaethau trenau Trafnidiaeth Cymru o Crewe i Fangor fel rhai 'peryglus', gydag adroddiadau fod dim modd i bellhau cymdeithasol, dim posib archebu seddi ymlaen llaw a dim cerbydau ychwanegol i ganiatáu teithio diogel, er gwaethaf polisi Trafnidiaeth Cymru yn ei gwneud yn glir y dylid cyfyngu nifer y teithwyr yn unol â rheoliadau llywodraeth Cymru. 

Dywedodd Hywel Williams AS: 

‘Rwy’n hynod bryderus o glywed adroddiadau gan etholwyr am y diffyg mesurau diogelwch Covid ar wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru sy’n gweithredu ar hyd prif reilffordd gogledd Cymru ac yn benodol, gwasanaethau o Crewe i Fangor yn fy etholaeth.’ 

‘Rwy’n deall gan deithwyr fod rhai gwasanaethau a ddechreuodd yn Crewe dros y penwythnos, yn llawn, heb unrhyw fodd i orfodi mesurau pellhau cymdeithasol yn iawn, gan adael teithwyr heb unrhyw ddewis arall ond eistedd ochr yn ochr a sefyll.’ 

‘Mae’r gwasanaeth enbyd hwn yn ddigon drwg o dan amgylchiadau arferol, ond mae disgwyl i deithwyr ddioddef amodau cyfyng am dros ddwy awr ar drên sydd wedi’i awyru’n wael heb fawr o bellter cymdeithasol yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus, yn warthus.’ 

‘Mae Trafnidiaeth Cymru eisioes wedi cydnabod fod capasiti gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus Cymru yn parhau'n gyfyngedig i ganiatáu pellhau cymdeithasol diogel, ac eto yma mae tystiolaeth o dorri’r polisi hwnnw’n uniongyrchol heb unrhyw fesurau wrth gefn i ddarparu ar gyfer galw teithwyr.’  

‘Gyda rheilffyrdd Cymru yn derbyn 1% o fuddsoddiad llywodraeth y DU er ein bod â 11% o’r rhwydwaith, yr ateb tymor hir i wella gwasanaethau yw datganoli cyfrifoldeb llawn i lywodraeth Cymru.' 

'Ond yn y cyfamser, rwy’n annog Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i adolygu eu protocolau diogelwch Covid ar frys, fel y gall teithwyr deithio’n ddiogel yn unol â rheoliadau teithio'r llywodraeth.’   


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-06-07 09:50:27 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd