AS yn mynnu eglurder ar ddefnyddio glanhawyr ôson mewn ysgolion

Yn ôl yr AS, dylai'r ffocws fod ar awyru gwell yn hytrach na’r glanweithyddion dadleuol

Mewn cyfarfod llawn o'r Senedd, holodd Siân Gwenllian AS y Prif Weinidog ynglŷn â’r cynllun gwerth £3.3m i roi glanhawyr osôn mewn ysgolion.

 

Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod y Llywodraeth wedi oedi’r cynllun glanhau osôn am y tro, yn dilyn pryderon a godwyd gan Siân Gwenllian AS ac eraill.

 

Ddoe, gofynnodd Siân Gwenllian i’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan am yr amserlen ar gyfer yr adolygiad. Dywedodd;

 

“Pan wnes i holi’r Prif Weinidog am y defnydd o’r rhain mewn ysgolion, cefais ar ddeall fod adolygiad cyflym yn cael ei gynnal gan y gell cynghori technegol i edrych ar y pryderon am ddiogelwch.

 

“Ydy’r adolygiad wedi gorffen ei waith, a beth oedd yr argymhellion? Beth fyddwch yn ei wneud?”

 

Atebodd y Gweinidog Iechyd drwy ddweud fod yr adolygiad yn parhau ac na wnaed unrhyw benderfyniadau.

 

Yn dilyn y drafodaeth yn y Senedd, dywedodd Siân Gwenllian:

 

“Mae llawer o arbenigwyr yn amheus o’r defnydd o beiriannau ôson ac yn credu y byddai’n llawer gwell rhoi ffocws ac adnoddau i ddulliau eraill o atal lledaeniad y feirws mewn ysgolion  – ac y byddai’n well cael mwy o adnoddau ar gyfer monitro aer a symud aer o gwmpas adeiladau.

 

“Rwy’n gobeithio y bydd penderfyniad buan i dynnu’r plwg ar y cynllun peiriannau oson ac y gellid defnyddio’r £3 Miliwn i gefnogi ysgolion i wella cylchrediad aer fel dull sydd wedi ei brofi i fod yn effeithiol iawn i atal lledaeniad y feirws.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-09-22 12:51:58 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd