AS yn ymweld ag uned strôc newydd

Mae'n un o dair canolfan adfer newydd ar draws gogledd Cymru

Mae canolfan adferiad ôl-strôc newydd wedi agor yng Nghaernarfon, ac mae’r Aelod lleol yn y Senedd wedi ymweld â’r cyfleusterau.

 

Mae Siân Gwenllian AS yn cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru, ac yn ddiweddar mae wedi ymweld â’r uned sydd am weddnewid gofal i gleifion sydd wedi dioddef strôc.

 

Mae'r uned adfer ôl-strôc newydd ar agor i gleifion yn Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon ac mae'r bwrdd iechyd yn gobeithio y bydd yn helpu cleifion strôc wrth iddynt wella.

 

Mae’r uned ymysg tair o’i math yng ngogledd Cymru sy'n darparu gofal adsefydlu i gleifion.

 

Bydd agwedd holistig yr uned tuag at y broses wella yn rhoi’r cyfle gorau i gleifion allu adfer yn llawn, a hynny gyda chymorth ystod o arbenigwyr amlddisgyblaethol gan gynnwys Ffisiotherapyddion, Nyrsys, Meddygon, Seicolegwyr, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Dietegwyr a Therapyddion Galwedigaethol.

 

Bu Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn y Senedd, yn ymweld â’r uned yn ddiweddar:

 

“Gall strôc gael effaith andwyol ar gymaint o wahanol agweddau ar iechyd unigolyn, a dyna pam fod y driniaeth gynhwysfawr sy’n cael ei chynnig yn yr uned hon yn bwysig. Mae'n rhoi cyfle go iawn i gleifion fedru gwella.

 

“Mae ffocws mawr ar adferiad hirdymor, dan law gweithwyr iechyd proffesiynol o wahanol feysydd.

 

“Cefais gyfle i gwrdd ag un unigolyn yn benodol ar fy ymweliad.

 

“Roedd Peter Perkins o Amlwch yn amlwg dan deimlad wrth iddo drafod pwysigrwydd yr uned hon, a pha mor ddiolchgar oedd o am eu gofal.

 

“Mae’n rhoi gobaith go iawn am adferiad a dechrau newydd i bobl sydd wedi bod drwy brofiad trawmatig.

 

“Hefyd, mae hyn yn digwydd o fewn y gymuned ac yn nes at gartrefi pobl, sy’n hollbwysig.

 

“Mae annibyniaeth bersonol yn rhywbeth rydyn ni’n aml yn ei gymryd yn ganiataol ond yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn dymuno ei gael.

 

“Mae’r cyfleusterau newydd yng Nghaernarfon yn gymorth i gleifion strôc fedru adennill eu hannibyniaeth a’u hyder.

 

“Hoffwn ddiolch i’r bwrdd iechyd a’r holl staff am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobol yr ardal.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2022-12-06 10:42:00 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd