ASau lleol yn yn cefnogi ymgyrch maethu Gwynedd

Mae ymgyrch i annog mwy o bobl i faethu yng Ngwynedd wedi cael cefnogaeth gan aelodau lleol Plaid Cymru o Seneddau Prydain a Chymru, Hywel WilliamsLiz Saville Roberts a Sian Gwenllian.

Yr wythnos yma, mae Cyngor Gwynedd yn cynnal ymgyrch i hyrwyddo cyfraniad hanfodol gofalwyr maeth yn ein cymuned. 

Mae Hywel Williams AS, Liz Saville Roberts AS a Sian Gwenllian AS yn annog pobl sy'n ystyried maethu i gysylltu â thîm maethu Cyngor Gwynedd. 

Meddai Hywel Williams ASLiz Saville Roberts AS a Sian Gwenllian AS,

'Rydym yn falch iawn o gefnogi Cyngor Gwynedd i godi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw maethu, yn enwedig yn y cyfnod anodd iawn hwn.'    

'Mae gofalwyr maeth yn chwarae rhan hollbwysig yn ein cymdeithas, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r holl deuluoedd maeth ledled Arfon a Dwyfor Meirionnydd am eu gofal amhrisiadwy.'

'Rydym yn gwybod bod Cyngor Gwynedd yn gweithio'n galed i gefnogi gofalwyr maeth yn y sir, ond mae angen mwy o bobl sy'n meddwl bod ganddynt y sgiliau a'r profiad priodol i ystyried a allent fod yn ofalwyr maeth.'

'Mae plentyndod yn gyfnod rhy fyr i'w wastraffu, a gall gofalwyr maeth helpu pobl sydd heb gael y dechrau gorau i ddechrau mwynhau eu bywydau a thyfu i fod yn bwy bynnag yr hoffent fod.'

'Mae teuluoedd maeth yn rhoi cartref sefydlog, llawn cariad i blant a phobl ifanc - gan roi amgylchedd lle nid yn unig y gallant deimlo'n ddiogel, ond gallant ragori.'

'Felly, byddem yn annog unrhyw un sy'n meddwl y gallent ddarparu cartref llawn cariad i blant sydd ag angen un i ddysgu mwy drwy gysylltu â Thîm Maethu Cyngor Gwynedd.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd