ASau yn llongyfarch Clwb Hwylio’r Felinheli ar gyrraedd rhestr fer Clwb y Flwyddyn y Royal Yachting Association

Mae Siân Gwenllian AS a Hywel Williams wedi llongyfarch Clwb Hwylio’r Felinheli ar eu llwyddiant diweddar.

Mae Clwb Hwylio’r Felinheli, wedi cyrraedd rhestr fer Clwb y Flwyddyn yr RYA drwy’r DU.
 
Yn ogystal â hynny, mae’r clwb wedi cael ei anrhydeddu â chydnabyddiaeth ‘Calon y Gymuned’, cydnabyddiaeth a roir i glwb sy'n cefnogi eu cymuned leol.
 
Dywedodd Siân Gwenllian AS;
 
“Rydym yn ffodus iawn mewn ardal mor fach ag Arfon i gael gymaint o glybiau sy’n darparu cymaint o brofiadau anhygoel i bobol leol.
 
Fel un o drigolion y pentref, gwn fod y gydnabyddiaeth ‘Calon y Gymuned’ yn haeddianol.
 
Rwyf innau, ynghyd â Hywel Williams AS wedi bod yn sefyll cornel canolfanau gweithgareddau awyr agored, sydd wedi wynebu cyfnod heriol iawn yn diweddar.
 
Dim ond yn ddiweddar mae ASau Plaid Cymru yn San Steffan wedi galw ar drysorlys y DU i gamu i'r adwy i achub swyddi yn y diwydiant awyr agored.”

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-12-02 16:49:30 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd