Canmol ailddatblygiad BT Bangor

Mae un o brif ganolfannau cyfathrebu gogledd Cymru wedi cael ei ailddatblygu

Agorwyd y cyfleusterau ar Ffordd Garth ym 1957 ac ers hynny mae wedi bod yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ar ran BT.

 

Mae BT wedi cyfeirio at y ganolfan ym Mangor fel “un o’i leoliadau mwyaf allweddol yng Nghymru”, a chyhoeddwyd buddsoddiad sylweddol yn y gangen yn ddiweddar fel rhan o raglen ‘Gweithle Gwell’ y cwmni. Cwblhawyd yr adnewyddiad yn gynharach yn 2021, ac mae’r AS lleol wedi ymweld â'r safle yn ddiweddar.

 

Dywedodd Siân Gwenllian AS;

 

“Roedd yn wych gweld manteision cwmni fel BT yn buddsoddi yng nghanol dinas Bangor, gyda thua 150 aelod o staff mewn swyddi sgiliau uchel yn y ganolfan.

 

“Fel llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg, rhaid imi roi sylw arbennig i wasanaeth dwyieithog dibynadwy BT, sydd wedi’i leoli ym Mangor. Mae'n codi calon gweld ein hiaith genedlaethol yn cael effaith uniongyrchol ar yr economi leol, yn dod â swyddi i Fangor.

 

“Mae cyflogaeth o ansawdd uchel yn ein cymunedau lleol yn rhan annatod o weledigaeth Arfor Plaid Cymru er mwyn cryfhau cymunedau Cymraeg, ac mae gweld parhad ymrwymiad cynnar BT i’r iaith 27 mlynedd yn ôl yn addawol.”

 

Yn 2019 dathlodd BT 25 mlynedd ers iddynt lansio’r polisi iaith y mae cangen Bangor yn ganolog iddo. Ym 1994, BT oedd un o'r cwmnïau preifat mawr cyntaf yn y DU i fabwysiadu polisi dwyieithog gwirfoddol.

 

Ychwanegodd Siân Gwenllian AS;

 

“Hoffwn ddiolch i staff BT am wahoddiad i fynd ar daith o amgylch yr adeilad.”

 

Dywedodd Nick Speed, Cyfarwyddwr Grŵp BT Cymru:

 

“Roeddem yn falch iawn o groesawu Siân Gwenllian i’r ganolfan, yn dilyn y gwaith adnewyddu diweddar.

 

“Mae Bangor yn safle pwysig i BT, ac mae timau yma yn darparu ystod o wasanaethau arbenigol. Mae'r rhain yn swyddi safon uchel sy'n denu pobl o Fangor, Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru. Mae'r adnewyddu wedi arwain at weithle mwy modern a hyblyg, sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif. "


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-11-25 15:28:20 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd