Cefnogaeth i ddiaspora Affricanaidd Gogledd Cymru yn ystod y cyfnod clo yn cael ei ganmol

Roedd yr Aelod o’r Senedd yn ymateb i'w hymweliad â Chymdeithas Affricanaidd Gogledd Cymru

Bu Siân Gwenllian AS yn ymweld â’r ganolfan wedi iddynt dderbyn grant gan y Loteri Genedlaethol i barhau â’u “gwaith hanfodol.”

 

Yn ddiweddar aeth yr Aelod o’r Senedd dros Arfon draw i Ganolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor ar y Stryd Fawr.

 

Agorodd y ganolfan ei drysau ym mis Mai i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Affrica, ac mae'n gartref i Gymdeithas Affricanaidd Gogledd Cymru (CACB). Mae’r ganolfan yn hwb i greu cysylltiadau cymunedol a darparu cyfleoedd cymdeithasu ar gyfer y diaspora Affricanaidd a Charibïaidd yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

 

Yn ddiweddar, croesawyd Siân Gwenllian, sy'n cynrychioli'r ardal yn y Senedd i'r ganolfan ar Stryd Fawr Bangor gan Dr. Salamatu J. Fada, Cyfarwyddwr CACB.

 

Aeth yr AS draw i longyfarch y gymdeithas ar dderbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac i ddiolch iddynt am yr hyn a alwodd yn “waith hanfodol” dros ddiaspora Affricanaidd Gwynedd a Môn yn ystod cyfnodau clo Cofid.

 

Dywedodd;

 

“Fe wnes i fwynhau fy ymweliad â Chanolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor yn fawr, nid yn unig am imi gael cyfle i’w llongyfarch ar dderbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ond hefyd i ddiolch yn bersonol iddynt am eu gwaith hanfodol yn ystod y pandemig.

 

“Maen nhw wedi bod yn darparu parseli bwyd sy’n ddiwylliannol briodol ar gyfer diaspora Affricanaidd yr ardal yn ystod y pandemig.

 

“Roedd eu gwaith yn arbennig o hanfodol ar ddechrau’r pandemig pan oedd prinder ymhlith rhai bwydydd oherwydd galw cynyddol.

 

“Creodd y gymdeithas gysylltiadau, gan roi sicrwydd i lawer o bobl mewn cyfnod o bryder mawr.

 

“Hoffwn eu llongyfarch ar dderbyn grant i barhau â’u gwaith rhagorol, ac am y croeso dymunol a chynnes a gefais.

 

“Cefais sgyrsiau hynod ddiddorol, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu’r berthynas.”

 

Derbyniodd Cymdeithas Affricanaidd Gogledd Cymru grant o £9,975 o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i barhau â’u gwaith.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2021-08-09 13:49:06 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd