Charlotte Church a Catrin Finch ymhlith dwsinau o ffigyaru celfyddydol blaenllaw sy'n cefnogi galwad Plaid Cymru am "arweinyddiaeth gadarn" i arwain y sector allan o argyfwng.

Llythyr agored at y Prif Weinidog Mark Drakeford gan Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS a Gweinidog Diwylliant yr Wrthblaid Sian Gwenllian AS yn rhybuddio y gallai’r sector gwympo o fewn “mis” heb weithredu brys.

Mae’r gantores Charlotte Church a’r delynores Catrin Finch ymhlith y dwsinau o ffigyrau blaenllaw o fewn y celfyddydau yng Nghymru sydd yn cefnogi galwad Plaid Cymru am “arweinyddiaeth gadarn” i arwain y sector allan o argyfwng yn sgil Covid-19.

Cadarnhaodd Llywodraeth San Steffan dros nos y byddai Cymru yn cael £59m allan o becyn cymorth Coronafirws gwerth £1.57bn ar gyfer y celfyddydau.

Mae llythyr agored at y Prif Weinidog Mark Drakeford gan Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS a Gweinidog Diwylliant yr Wrthblaid Sian Gwenllian AS sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r £59 miliwn “yn llawn” ac am dri “ymyrraeth bendant a brys” gan Lywodraeth Cymru - gan gynnwys sefydlu a defnyddio tasglu brys sy'n cynnwys cynrychiolwyr y diwydiant; buddsoddi fel rhan o gynllun adfer Covid-19; a darparu cynllun clir ar adferiad, wedi'i gyd-lofnodi gan chwe deg saith o ffigurau blaenllaw yn y sector.

Mae'r llofnodwyr hefyd yn cynnwys yr actor Carys Eleri, bardd cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn a'r actor Mark Lewis Jones.

Mae ffigurau yn y diwydiant wedi rhybuddio bod sector y celfyddydau yng Nghymru yn wynebu’r posibilrwydd real o ddiswyddiadau eang - gan gynnwys colli 250 o swyddi yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Mae trosiant blynyddol y diwydiant yng Nghymru werth oddeutu £2.2 biliwn ac mae'n cyflogi tua 56,000 o bobl.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price,

“Heb amheuaeth, mae’r cyhoeddiad y bydd £59 miliwn ar gael i ddiwydiant celfyddydau Cymru yn rhyddhad mawr i nifer o fewn y sector. Ond nawr mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad yng Nghymru trwy sefydlu tasglu sy'n sicrhau bod yr arian yn cael ei ddosbarthu'n deg ar draws y sector.

“Ar ôl siarad ag aelodau o sector y celfyddydau, mae’n amlwg eu bod wedi bod yn gweiddi nerth esgyrn eu pennau am gymorth, cefnogaeth ac arweinyddiaeth yn ystod yr argyfwng hwn. Mae ymgynghoriadau ar ddiswyddo yn digwydd nawr ledled y wlad ac ymhen ychydig wythnosau, bydd y broses honno’n ddi droi nol. Nid yw llawer o weithwyr llawrydd a ddisgynnodd trwy'r bylchau wedi derbyn ceiniog ers i'r argyfwng hwn ddechrau ac maent eisoes yn wynebu colli eu bywoliaeth.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru nawr ddangos arweinyddiaeth trwy weithio gyda’r diwydiant i greu cynllun clir, diogel a chyfrifol a fydd yn arwain y diwydiant a’r gweithwyr yr effeithir arnynt o’r argyfwng.

Meddai Gweinidog Diwylliant Cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian MS,

“Mae’r nifer enfawr o lofnodion y tu ôl i’r llythyr yn dangos y gefnogaeth dorfol sydd y tu ôl i achub y celfyddydau.

“Mae'r celfyddydau yn elfen mor werthfawr yng Nghymru, nid yn unig yn ddiwylliannol ond yn economaidd hefyd. Os gadewir i'r diwydiant gwympo byddai ôl-effeithiau trychinebus.

“Mae’n rhaid i gefnogaeth i’r sector gyfan a chydnabyddiaeth o’i rôl wrth helpu pobl ledled Cymru i fynegi a dehongli argyfwng Covid fod yn rhan ganolog ac annatod o gynlluniau adfer Covid Llywodraeth Cymru.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd