Plaid Cymru yn addo arian sylweddol i Arfon mewn bargen ar y gyllideb

Mae Plaid Cymru wedi sicrhau bargen ar y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru fydd yn dod â manteision sylweddol i Arfon, medd AC y Blaid dros Arfon, Siân Gwenllian.

Dywedodd Siân Gwenllian mai’r fargen ar y gyllideb a sicrhawyd gan ei blaid yw’r fargen fwyaf ar y gyllideb am un flwyddyn yn hanes y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd yn dod â manteision sylweddol Arfon ac i’r gogledd.
 
Ymysg y manteision a sicrhawyd gan Blaid Cymru, fe fydd;
 
·         £7m o fuddsoddiad pellach mewn hyfforddiant meddygol i gael mwy o feddygon yn gweithio yn y GIG, gan gynnwys ysgolion meddygol – yn dod a Ysgol Feddygol i Fangor cam ymhellach
·         £25m mwy o arian i awdurdodau lleol, a fydd yn golygu bod gwasanethau cyhoeddus yn derbyn gyllideb ychydig yn fwy blwyddyn nesaf
·         £20m ychwanegol mewn gwariant ar iechyd meddwl
·         Buddsoddiad enfawr o £30 miliwn mewn prifysgolion a champysau Addysg Bellach, fydd o les i sefydliadau megis Prifysgol Bangor a Choleg Meirion Dwyfor
·         Creu miloedd o brentisiaethau o ansawdd uchel ledled Cymru
·         £5m i’r iaith Gymraeg
·         £3 tuag at gynllun peilot o barcio am ddim yng nghanol trefi – yn ymateb i alwadau gan Ardal Gwella Busnes Bangor, Hwb Caernarfon a busnesau bach yn Arfon.
·         Mwy o gyllid i’r celfyddydau
·         Dyblu cyllideb Visit Wales i hybu twristiaeth.
Dywedodd AC Plaid Cymru dros Arfon Siân Gwenllian:
 
“Hon yw’r fargen fwyaf ar y gyllideb yn hanes Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond yn fwy na hynny, dyma’r fargen orau erioed i ogledd Cymru ac i Arfon. Ers cychwyn tymor y Cynulliad hwn, gwnaeth Plaid Cymru hi’n glir y byddwn yn defnyddio ein rôl fel yr Wrthblaid Swyddogol i roi gwir enillion i bobl Cymru, a dyna beth yr ydym wedi llwyddo i’w wneud heddiw.”
 
“Bydd ein bargen yn gweld buddsoddiad enfawr mewn addysg, trwy ein prifysgolion a’n colegau Addysg Bellach, a thrwy greu miloedd o brentisiaethau newydd. Mae Plaid Cymru wedi sicrhau buddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd, a fydd yn golygu mwy o gyfarpar diagnostig i leihau amseroedd aros, a bydd yn golygu hefyd y gallwn hyfforddi mwy o feddygon i weithio yn y GIG mewn lleoliadau newydd, fel ysgol feddygol ym Mangor.”
 
“Mae Plaid Cymru wedi sicrhau amgueddfa pêl-droed i ogledd Cymru, a bydd y cyllid ychwanegol a sicrhawyd gennym yn golygu y bydd cyrff megis Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn gweld cynnydd o 3.5% o leiaf yn eu cyllidebau. A thrwy ddyblu cyllideb Visit Wales gallwn wneud Cymru yn gyrchfan fyd-enwog i ymwelwyr a helpu’r busnesau sy’n dibynnu ar y fasnach ymwelwyr.”
 
“Nod Plaid Cymru yn wastad fu rhoi’r fargen orau i bobl Cymru, ac y mae ein bargen ar y gyllideb yn becyn buddsoddi enfawr o £119 miliwn fydd yn cryfhau’r GIG, yn hybu’r economi, gwella safonau addysgol a chyflwyno gwell gwasanaethau cyhoeddus. Yr ydym wedi llwyddo i gyflawni mwy mewn llai na chwe mis nac unrhyw blaid arall yn hanes y Cynulliad Cenedlaethol, a byddwn yn parhau i frwydro dros fuddiannau pobl ym mhob cwr o Gymru.”

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd