Plaid Cymru Arfon yn bryderus am adroddiad o gynnydd mewn digartrefedd ym Mangor

DATGANIAD_-_PRESS_RELEASE_-_Digartref_-_Homeless_-_PLAID_ARFON_(llun).jpg

Heddiw yn y Senedd mae Aelod Cynulliad Arfon Siân Gwenllian wedi cwestiynu’r Prif Weinidog Carwyn Jones am ymdrechion ei lywodraeth i fynd i’r afael a’r broblem digartrefedd yn Arfon

Daw pryder cynyddol gan Siân Gwenllian am y sefyllfa yn sgil tystiolaeth ar lafar bod cynnydd wedi bod yn y niferoedd o bobl sy’n cysgu allan ym Mangor.

Mae Catrin Wager, un o gynghorwyr Bangor, wedi cwrdd â Siân Gwenllian AC yn ddiweddar er mwyn trafod beth ellir ei wneud gan bod asiantaethau yn adrodd eu bod wedi gweld cynydd mewn cysgwyr stryd.

“Rydw i wedi sylwi ar gynnydd fy hun wrth fod allan yn cerdded ym Mangor, ac mae pobol yn dweud wrtha’i eu bod nhw hefyd wedi sylwi ar y cynnydd,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager. "Mae yna gefnogaeth i’r digartref ym Mangor. Mae yna ddwy hostel, canolfan galw heibio iechyd meddwl, ac mae Cyngor Gwynedd yn gweithio’n galed i drio cartrefu pobl sy'n ffeindio’u hunain yn wynebu di-gartrefedd. Ond mae pobl yn cwympo drwy'r rhwyd, ac mae angen inni gydweithio i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi. Rwy'n falch bod sgyrsiau wedi dechrau rhwng asiantaethau i ddatblygu canolfan ddydd i bob ddigartref yn y ddinas, ac yn falch o gael fy nghynnwys yn y sgwrs hon. Gobeithio y bydd hwn yn le lle gall pobl gael gafael ar gymorth ymarferol, meddygol ac emosiynol; canolfan fydd yn cynnig cyfleoedd addysgol yn ogystal â chyfleusterau sylfaenol megis cawodydd, peiriannau golchi a sychu dillad, a chymorth milfeddygol i gŵn. Mae'n ddyddiau cynnar i’r cynllun, ond yr wyf wir gobeithio y byddwn yn gweld y ganolfan yn agor, ac y gallwn wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sydd heb do sefydlog dros eu pen. '

Meddai Siân Gwenllian AC, “Mae digartrefedd yn cael ei weld fel problem i’r ardaloedd trefol a’r dinasoedd mawrion ond rydw i’n hollol ymwybodol bod ganddom ni bobol yn cysgu allan ar ein stepan drws yma yn Arfon. Does yr un ardal o Gymru yn gallu osgoi’r problemau hyn, ac rydw i wedi fy mrawychu o glywed am y pryderon bod y niferoedd o bobol sy’n cysgu allan ym Mangor ar gynydd. Rydwi’n rhoi cefnogaeth lwyr i’r cynghorydd Catrin Wager yn ei thrafodaethau gydag asiantaethau’r digartref ym Mangor gan obeithio y gellir rhoi rhywbeth mewn lle yn fuan i gynnig lloches ychwanegol i’r rhai sydd ei angen.

Mae’r pryderon yma am ddigartrefedd ym Mangor ac mewn mannau eraill o Gymru wedi eu trafod yn y Senedd yn ddiweddar. Bu i Blaid Cymru arwain dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ar yr argyfwng cynyddol mewn digartrefedd a chysgu allan yng Nghymru, gan alw ar Lywodraeth Cymru am ddiwygiad polisi a newid agwedd “o’r gwraidd i’r gangen” mewn agwedd tuag at bobl ddigartref a’r rhai sy’n cysgu ar y stryd.

Yn y blynyddoedd ddiwethaf mae achosion o ddigartrefedd a chysgu allan wedi tyfu’n aruthrol o ganlyniad i newidiadau budd-dal Llywodraeth y DU a diffyg cartrefi fforddiadwy ac addas. Mae Plaid Cymru wedi dadlau dros symud at bolisi tai yn gyntaf, a fyddai’n sicrhau cartref i’r rhai sydd ei angen gan roi diwedd ar y system blaenoriaethu, sydd yn cosbi’r rhai sydd ddim yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth, fel dynion ifanc, ac sydd yn gwneud pobl fregus yn llai tebygol o chwilio am gymorth a chefnogaeth.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am fod yn ara deg wrth ddelio â digartrefedd ac am y ffordd hap-ddamweiniol mae wedi dewis delio â’r broblem, yn hytrach na llunio polisi pendant.

Ychwanegodd Siân Gwenllian: “Cefais fy nhristau yn ddiweddar o glywed adroddiadau am gynlluniau gan gyngor Windsor i glirio’r strydoedd o bobol ddigartref cyn y briodas frenhinol. Mae’r rhai sy’n cysgu ar y stryd yn bobol hefyd a dylem roi’r gorau i’w trin nhw fel petae nhw rhywsut yn wahanol i ni ac fel petawn nhw ar fai am eu sefyllfa. Mae canfod eich hunan heb rywle i fyw yn gallu digwydd yn haws o lawer nag y byddai rhywun yn ei feddwl ac mi ddylem ni fod â chydymdeimlad tuag at bobol sy’n canfod eu hunain yn y sefyllfa. Dylem hefyd ei wneud yn egwyddor greiddiol na ddylai unrhyw un fod heb do uwch eu pennau.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd