DYLID TYNNU MASNACHFRAINT RHEILFFORDD ARFORDIR Y GOGLEDD ODDI WRTH AVANTI MEDD AS.

AS ARFON YN BEIRNIADU GWASANAETH 'DIFRIFOL' TRENAU O OGLEDD CYMRU I LUNDAIN.  

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams wedi galw ar yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth i dynnu masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin oddi wrth cwmni Avanti am y gwasanaeth enbyd i deithwyr yn y gogledd. 

Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin yn ystod Cwestiwn Brys ar y problemau parhaus gyda gwasanaethau Avanti, dywedodd Hywel Williams AS y dylai’r fasnachfraint gael ei chyfnewid am wasanaeth cyhoeddus fel sy’n wir am rwydwaith rheilffyrdd yr Almaen. 

Mae'r cwmni trenau sy'n rhedeg gwasanaethau ar Brif Linell Gogledd Cymru trwy Fangor bellach yn rhedeg llawer llai o wasanaethau gyda mwyafrif o wasanaethau uniongyrchol o ogledd Cymru i Euston yn Llundain wedi eu canslo.  

Mae gwerthiant tocynnau wedi’i atal, mae amserlenni wedi’u newid yn sylweddol, gwasanaethau wedi’u lleihau’n sylweddol ac o’r trenau hynny sy’n gweithredu, mae’r rhan fwyaf yn llawn - ac mae hyn i gyd yn effeithio’n sylweddol ar amseroedd teithio.  

Dywedodd yr AS Plaid Cymru fod rhai o’i etholwyr hyd yn oed yn gyrru bron i 300 milltir i Lundain er mwyn osgoi defnyddio gwasanaethau Avanti. 

Dywedodd Hywel Williams AS: 

'Doedd y gwasanaeth trên i Fangor yn fy etholaeth ac ar hyd y llwybr Gwyddelig i Gaergybi byth yn wych. Rwan mae'n enbyd, gyda threnau'n cael eu canslo, trenau'n hwyr, trenau'n llawn, a phrisiau tocynnau yn uchel iawn.' 

'Mae ymwelwyr â gogledd Cymru yn gadael y tren yn Crewe ac yn neidio i'w ceir. Mae fy etholwyr yn gyrru yr holl ffordd i Lundain yn hytrach na chymryd y trên. Sôn am Gysylltedd yr Undeb a theithio gwyrdd!' 

'Onid yw'n glir i'r Gweinidog y dylai Avanti golli'r fasnachfraint a dyliem gael gwasanaeth cyhoeddus yn ei le fel sydd mewn gwledydd mwy datblygedig eraill fel yr Almaen?' 

Ychwanegodd Hywel Williams AS:  

'Mae defnyddwyr rheilffyrdd yn y gogledd yn cael eu hanhwyluso'n fawr gan y gostyngiad parhaus mewn gwasanaethau heb unrhyw drenau uniongyrchol o Ogledd Cymru i Lundain bellach yn rhedeg o'm hetholaeth lle roedd unwaith dau neu dri y dydd.' 

'Mae pobl yn haeddu sicrwydd a hyder y bydd eu trên yn rhedeg ar amser. Heb amserlen ddibynadwy, y gallu i archebu tocynnau ymlaen llaw a threnau sy'n cyrraedd - mae'n anodd iawn i bobl gynllunio ymlaen llaw.' 

'Mae teithwyr ar draws gogledd Cymru bellach yn wynebu amseroedd teithio sylweddol uwch sydd wedi'u gwaethygu gan gyfathrebu gwael iawn ac amserlen gwbl annibynadwy. Mae'r aflonyddwch hwn yn ddrwg i fusnes ac yn ddrwg i deithwyr hamdden.' 

‘Ynghyd â tynnu’r masnachfraint oddi wrth Avanti, dylai’r Llywodraeth ganolbwyntio ei hymdrechion ar uwchraddio rheilffordd y gogledd a bwrw ymlaen â thrydaneiddio fel bod fy etholwyr yn elwa ar gysylltiad trawsffiniol cyflymach a mwy dibynadwy, gan roi cydraddoldeb i ogledd Cymru. gyda gweddill y DU.' 

'Gydag achos cadarn dros drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, mae pobl Arfon eisiau gwybod pam nad yw'n digwydd rwan a pham fod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i HS2, eliffant gwyn o brosiect fydd yn cymryd blynyddoedd i'w gwblhau.'


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2022-09-12 10:42:07 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd