Menna Baines
Mae Menna yn byw ym Mhenrhosgarnedd ers 20 mlynedd, ac mae wedi cynrychioli ward Pentir ar Gyngor Gwynedd ers 2017. Mae'n sefyll ar gyfer ward newydd Faenol.
Mwy am Menna:
- Adfer rhan o wasanaeth bws pentref Glasinfryn yn dilyn toriadau.
- Helpu pobl i gael tai cymdeithasol.
- Bod yn rhan o ymgyrch lwyddiannus i rwystro datblygiad tai enfawr ac anaddas mewn ward gyfagos.
- Helpu i ddatrys problemau yn stad Goetre Uchaf, Penrhosgarnedd.
- Dosbarthu pecynnau bwyd am ddim a helpu unigolion yn ystod y pandemig
- Rhoi cefnogaeth allweddol i sefydlu deintyddfa newydd ym Mharc Menai sy’n cyflogi pedwar o bobl hyd yma.
Gwaith yn y Gymuned:
- Eistedd ar y Pwyllgor Craffu Gofal, Panel Maethu, Cyd-bwyllgor Ymgynghorol Lleol a CYSAG (Cyngor Gwynedd).
- Cadeirydd Fforwm Ardal Bangor Ogwen (cadeirydd).
- Llywodraethwr Ysgol y Faenol ac Ysgol Tryfan.
- Aelod o Gyngor Cymuned Pentir.
- Cadeirydd pwyllgor Canolfan Penrhosgarnedd.
- Aelod o fwrdd golygyddol papur bro’r Goriad.
- Aelod o bwyllgor Menter Iaith Bangor.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter