Galw am flaenoriaethu cynllun hir-dymor i liniaru problemau parcio Eryri.

Mae AS Plaid Cymru Arfon Hywel Williams, ac Aelod o Senedd Cymru Siân Gwenllian ynghyd ac AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi galw am flaenoriaethu ymgynghoriad cyfredol ar gynllun Parcio a Theithio arfaethedig yn Eryri, yn dilyn problemau traffig dybryd ym Mhen y Pass dros y penwythnos pan welwyd cannoedd o geir yn parcio ar ochr yr A4086 a ffyrdd cyfagos, gan achosi tagfeydd peryglus. Maent hefyd wedi galw am eglurder ynghylch pa fesurau tymor byr a gyflwynir cyn y penwythnos nesaf i fynd i'r afael a'r broblem.

Dywedodd y cynrychiolwyr lleol fod golygfeydd ym Mhen y Pass a Nant Peris yn tynnu sylw at yr angen dybryd i flaenoriaethu datrysiad tymor hir a chynaliadwy i broblemau parcio mewn mannau sy’n boblogaidd ag ymwelwyr ac na fyddai mesurau dros dro yn ddigonol mwyach.

Dywedodd Hywel Williams AS, Siân Gwenllian AS a Liz Saville Roberts AS,

‘Roedd y golygfeydd ym Mhen y Pass dros y penwythnos yn wirioneddol syfrdanol. Ni all unrhyw beth esgusodi ymddygiad y rhai adawodd eu cerbydau ar ddarn eithriadol o brysur o’r A4086 heb fawr ystyriaeth i ddiogelwch cyd-ddefnyddwyr ein ffyrdd a’n gwasanaethau brys.’

‘Er y gallai cyfyngiadau parcio a mesurau gorfodi fod o fudd cyfyngedig, mesurau dros dro, tymor byr yn unig ydynt, a nid ydynt yn mynd yn ddigon pell i ddelio â’r pwysau tymor hir sy’n gysylltiedig â nifer cynyddol o ymwelwyr i’r ardal.’

‘Mae arnom angen ateb parhaol sydd â chynaliadwyedd yn ganolog iddo, ac mae hynny’n cynnwys cyflwyno’r ymgynghoriad cyfredol ar gynllun Parcio a Theithio ar fyrder, a gweithio gyda’r gymuned leol i gyflwyno mesurau dichonadwy i reoli’r galwadau cynyddol ar wasanaethau lleol.’

'Rydym yn croesawu arwyddion fod trafodaethau yn mynd rhagddynt dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i edrych ar gamau i fynd i'r afael â'r broblem a byddem yn annog y trafodaethau hynny i ddigwydd cyn gynted â phosibl.'

'Yr hyn mae digwyddiadau’r penwythnos yn danlinellu yw na allwn aros llawer hirach am ateb parhaol i'r broblem hon, un sy'n delio'n ddigonol â'r pwysau tymhorol ar ein cymunedau ac yn blaenoriaethu buddiannau'r economi leol, defnyddwyr ffyrdd a'n hamgylchedd naturiol.'

'Mae angen cymhelliant ar bobl i deithio i, a thrwy Eryri mewn ffordd gynaliadwy. Byddem yn apelio ymhellach ar bob ymwelydd ag Eryri i barchu'r amgylchedd a'n cymunedau lleol a gadael dim byd ond eu holion traed ar ôl.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd