Galw ar y trysorlys i ddiogelu swyddi yn y diwydiant awyr agored

Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru Gwynedd Hywel Williams a Liz Saville Roberts, wedi galw ar Drysorlys y DU i gefnogi mesurau rheoli Covid-19 gyda pecyn cymorth penodol i ddiogelu swyddi yn y sector addysg awyr agored.  

Mae'r Aelodau Seneddol wedi cyflwyno Cynnig gerbron Ty'r Cyffredin yn annog llywodraeth y DU i ehangu'r cynllun ffyrlo a darparu cefnogaeth benodol i sectorau sydd wedi dioddef yn anghymesurol yn sgil y pandemig, gan gynnwys canolfannau awyr agored sy'n cyflogi cannoedd o swyddi yng Ngwynedd. 

Apeliodd Hywel Williams a Liz Saville Roberts i'r llywodraeth ddarparu cefnogaeth frys i'r sector dwristiaeth, addysg awyr agored, hamdden, lletygarwch a'r celfyddydau er mwyn amddiffyn swyddi dros fisoedd y gaeaf. 

Dywedodd Hywel Williams AS,  

‘Mae canolfannau addysg awyr agored yn darparu buddion enfawr o ran hybu iechyd corfforol a meddyliol plant, wrth wella cyfleoedd pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.’ 

'Ond, mae eu dibyniaeth ar ymweliadau ysgol a phreswyl am gyfran sylweddol o'u hincwm yn golygu y byddant yn parhau mewn trafferthion tra bydd y rheoliadau iechyd angenrheidiol mewn lle.' 

'Ynghyd â llawer o fusnesau yn y sector twristiaeth, hamdden, lletygarwch a'r celfyddydau; mae canolfannau addysg awyr agored, a’r swyddi sy’n ddibynnol arnynt, yn wynebu gaeaf llwm ac ansicr.’ 

'Rhaid cofio bod y rhain yn fusnesau hyfyw, a oedd yn ffynnu cyn y pandemig a dyna pam mae'n rhaid eu cefnogi fel eu bod yn barod i agor cyn gynted ag y gellir codi cyfyngiadau.' 

'Galwaf ar frys ar lywodraeth y DU i sicrhau bod mesurau iechyd yn cael eu ategu gan gefnogaeth economaidd a bod mesurau wedi'u targedu yn cael eu rhoi ar waith ar frys i helpu'r sectorau hyn trwy fisoedd y gaeaf, gan gynnwys ehangu pellach ar y cynllun ffyrlo.' 

Dywedodd Liz Saville Roberts AS

'Er ei bod yn ddealladwy pam ei bod yn anodd i ysgolion drefnu ymweliadau gweithgareddau awyr agored ar hyn o bryd, mae'n hanfodol bod canolfannau yng Ngwynedd ac ar draws Cymru yn barod i weithredu cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ailagor.' 

'Maent yn enghraifft benodol o sector sydd wedi'i orfodi i gau i lawr yn ystod yr argyfwng hwn ond heb gael fawr o gefnogaeth gan y llywodraeth.' 

'Mae'n anochel y bydd llawer o blant wedi bod gartref yn ystod argyfwng Covid-19, a rhaid i'r cyfleon i fwynhau ymarfer corff yn yr awyr iach fod ar gael mor eang a phosib er eu lles hwy ac i hybu ffyrdd iach o fyw yn y dyfodol.' 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-10-21 10:40:06 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd