Galwadau am eglurder ynghylch amserlen i ail agor Stryd Fawr Bangor.

Mae Aelod Seneddol San Steffan Plaid Cymru Arfon Hywel Williams ac Aelod o’r Senedd Siân Gwenllian wedi galw am ddiweddariad brys ar waith i ailagor stryd fawr Bangor, wyth mis ar ôl iddi gael ei chau i draffig yn dilyn tân difrifol.

Mae pryderon wedi eu mynegi am gynnydd araf yn y rhaglen waith wrth iddi ymddangos y bydd y ffordd trwy ran uchaf y stryd fawr yn parhau ar gau am gyfnod estynedig.  

Dywedodd Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AS

‘Mae wyth mis bellach wedi mynd heibio ers i stryd fawr Bangor gau i gerbydau yn dilyn tân difrifol a arweiniodd at ddifrod strwythurol sylweddol ym mwyty Noodle One ac eiddo cyfagos, sydd wedi’i ddynodi’n anniogel ac yn aros i’w ddymchwel.’

‘Mae busnesau wedi delio â dirywiad sylweddol mewn masnach ac wedi gorfod delio â phroblemau gyda loriau nwyddau yn cael mynediad i’r stryd fawr, yn enwedig ar gyfer cerbydau trwm. Daeth hyn cyn i Covid-19 waethygu’r sefyllfa.'

‘Er bod mesurau cychwynnol wedi’u rhoi ar waith i liniaru’r effaith ar fusnesau lleol, megis trefniadau rheoli traffig amgen, erbyn hyn mae ymdeimlad amlwg o rwystredigaeth o fewn y gymuned leol bod y cynnydd o ran adfer y sefyllfa wedi arafu.’

'Bu galwadau parhaus am amserlen gadarn i waith ddechrau ar ddymchwel yr adeilad yr effeithiwyd arno fel y gellir paratoi i ailagor y stryd fawr cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib fel y gall masnachwyr ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd.'

'Rydym yn deall bod y rhaglen waith ar gyfer cam dymchwel y gwaith y tu allan i gylch gwaith Cyngor Gwynedd ac mae'n profi i fod yn llawer mwy heriol na'r disgwyl, a heb amheuaeth wedi'i waethygu gan effaith cyfyngiadau iechyd cyhoeddus Covid-19.'

'Ar ôl trafod y sefyllfa gyda Maer Bangor, sydd wedi lleisio ei bryderon ei hun, rydym yn gwerthfawrogi y cymhlethdodau sydd ynghlwm a’r gwaith yn ogystal ag ymdrechion i fynd i’r afael a’r sefyllfa, ond rydym yn annog y gwaith dymchwel i ddechrau a chael ei gwblhau cyn gynted â phosib.'

'Mae ein masnachwyr lleol yn gweithio'n galed iawn i gadw eu siopau i fynd o dan amgylchiadau arferol. Mae sefyllfa Covid-19 wedi rhoi pwysau ychwanegol di-angen ar fanwerthwyr. Yr hyn sydd ei angen arnynt yw rhywfaint o sicrwydd ac arwydd bod pethau'n symud yn eu blaen.'

'Mae stryd fawr Bangor, gyda'i arlwy o siopau annibynnol bach angen ein cefnogaeth rwan yn fwy nag erioed, a gallwn ni i gyd chwarae ein rhan wrth gefnogi masnachwyr lleol trwy'r amser anodd hwn, a hynny mewn modd diogel ac wrth gadw at ganllawiau iechyd cyhoeddus.'

 

Ychwanegodd Maer Bangor, y Cynghorydd John Wyn Williams

'Mae busnesau y stryd fawr yn mynd trwy gyfnod eithriadol o heriol ar hyn o bryd, ac mae angen sicrwydd arnynt pa gynnydd sy'n cael ei wneud gyda'r gwaith dymchwel.'

'Rwy'n gobeithio y gallwn gael rhywfaint o eglurder fel y gall busnesau lleol a phobl Bangor fod yn dawel eu meddwl bod pethau'n symud ymlaen.'

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd