GALWADAU I DDIOGELU CAERNARFON FEL SAFLE AMBIWLANS AWYR CYMRU. YMGYRCHWYR YN UNO I WRTHOD SYMUD GWASANAETH ACHUB BYWYD I’R DWYRAIN.

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams a’r Aelod Senedd Siân Gwenllian wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru yn lleisio pryderon am gynlluniau i gau eu canolfan ym Maes Awyr Caernarfon a chanoli y gwasanaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru. 

Yn ddiweddar, datgelodd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, sy’n gweithredu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac EMRTS, fwriad i ad-drefnu eu gwasanaethau cenedlaethol a allai arwain at gau safleoedd Caernarfon a’r Trallwng a sefydlu un lleoliad canolog yn y gogledd-orllewin. 

Mae galwadau Hywel Williams a Sian Gwenllian wedi’u hadleisio gan Liz Saville Roberts AS, Mabon ap Gwynfor AS (Dwyfor Meirionnydd) a Rhun ap Iorwerth AS (Ynys Môn).

Mae'r gwleidyddion yn cwestiynu sut y bydd y trefniant newydd arfaethedig yma yn cryfhau gwasanaethau meddygol brys diogel yng Ngwynedd wledig lle mae pobl yn byw gryn bellter o adran Ddamweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Gwynedd. 

Ymunodd y gwleidyddion Plaid Cymru ag ymgyrchwyr ym Maes Awyr Caernarfon, Dinas Dinlle ddydd Sadwrn mewn sioe o undod i alw i gadw’r gwasanaeth yng Nghaernarfon. 

Ymhlith yr ymgyrchwyr oedd Cian Wyn Williams o Borthmadog a gafodd ei achub gan yr Ambiwlans Awyr yn dilyn damwain ym Mhorthmadog ddeng mlynedd yn ol. 

Dywedodd Hywel Williams AS a Sian Gwenllian AS: 

'Mae nifer o'n hetholwyr yn Arfon wedi cysylltu â ni, gan gynnwys rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau codi arian yr Ambiwlans Awyr yn lleol, yn pryderu am ad-drefnu arfaethedig y gwasanaeth.' 

'Ein dealltwriaeth ni yw mai'r cynnig yw cau canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng a sefydlu un ganolfan newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru, tra'n cynnal y canolfannau presennol yn ne Cymru fel ag y maent.' 

'Mae'r cynnig hwn wedi achosi gofid sylweddol yn ardal Arfon, gydag awgrymiadau mai ymarfer torri costau yw'r cynlluniau yn bennaf a fydd yn arwain at wasanaeth arall yn symud i'r dwyrain, ar draul cymunedau gwledig Gwynedd ac Ynys Môn.'  

‘Mae yna bryderon y byddai cau’r ganolfan yng Nghaernarfon yn arwain at oedi mewn amseroedd ymateb gan y byddai angen i’r hofrennydd deithio o ymhellach i ffwrdd gyda pryderon am yr angen i'w llenwi a thannwydd yn fwy aml.'  

'Mae pryderon hirsefydlog eisoes am amseroedd ymateb Ambiwlans Cymru. Byddai cau canolfan Caernarfon ond yn ychwanegu at bryderon am fylchau yn y ddarpariaeth gwasanaeth ar gyfer gogledd orllewin Cymru.' 

‘Mae’n rhesymol tybio, os yw’r Ambiwlans Awyr wedi’i leoli mewn ardal â phoblogaeth uwch, a chyda’r A55 ar y stepen drws, bydd yn cael ei dynnu at fynychu digwyddiadau a oedd gynt dan law Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac felly’n mynychu mwy o ddigwyddiadau bob blwyddyn.' 

'Mae pryder bod targedau ar gyfer nifer y digwyddiadau a fynychir bob blwyddyn yn cael eu blaenoriaethu dros y math o ddigwyddiadau, er enghraifft digwyddiadau mewn ardaloedd anghysbell, gwledig gyda mynediad anodd ac amseroedd teithio hir i ysbytai.' 

'Byddai hefyd yn ddefnyddiol gwybod a oes unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i effaith y cynigion hyn ar weithgareddau codi arian yn lleol, a’r gymuned. Mae'r Ambiwlans Awyr wedi dod yn rhan annatod o fywyd yn Arfon. Mae perygl y bydd cau'r ganolfan yn tanseilio'r ewyllys da hwn.' 

'Mae pryderon amlwg am ddyfodol y staff sifil a meddygol a gyflogir yn y ganolfan yng Nghaernarfon, gyda llawer ohonynt yn cael eu tynnu i'r ardal oherwydd y cyfle i weithio yn y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr.' 

'Os bydd safle Caernarfon yn cau, efallai y bydd y bobl hynod hyfforddedig a phrofiadol hyn yn symud i rywle arall - colled enfawr i'r GIG yn lleol.' 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2022-10-10 16:35:52 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd