Grŵp cymunedol Maesgeirchen yn derbyn grant loteri o £10,000

Mae Maes Ni wedi derbyn £10,000 i gynnal gweithdai ar gyfer pobl ifanc Maesgeirchen

Aeth Siân Gwenllian AS draw i ymweld â’r grŵp i'w llongyfarch ar dderbyn y grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

 

Bu Maes Ni, grŵp cymunedol ym Maesgeirchen yn llwyddiannus wrth dderbyn grant gwerth £10,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri er mwyn cynnal gweithdai cerddoriaeth ac ysgrifennu creadigol i bobl hŷn, pobl ifanc a theuluoedd er mwyn ddatblygu sgiliau creadigol, gwella lles, a rhannu profiadau.

 

Yn ddiweddar aeth yr Aelod lleol o’r Senedd, Siân Gwenllian, draw i Faesgeirchen i ymweld â’r grŵp cymunedol.

 

Dywedodd;

 

“Hoffwn ddiolch i’r rheini sydd ynghlwm â Maes Ni am ymweliad gwych.

 

“Roedd y croeso a gefais gan bobl ifanc Maesgeirchen yn gynnes ac egnïol.

 

“Roedd yn codi calon gweld criw o bobl ifanc yn llawn brwdfrydedd heintus dros greu a pherfformio. 

 

“Mae'n tystio i werth cyfleoedd fel y rhai maen nhw'n eu cael gan Maes Ni, dan adain Owen Lee Maclean o Faesgeirchen a'r bardd Martin Dawes.

 

“Mae’n hollbwysig rhoi cymaint o gyfleoedd a phrofiadau ag sy’n bosibl i blant a phobl ifanc er mwyn eu harfogi â sgiliau bywyd, rhoi cyfle iddyn nhw gymdeithasu, a rhoi cyfle arbennig i arweinwyr prosiect weld ac annog talent.

 

“Mae dod o hyd i ffordd i fynegi ein hunain yn rhan bwysig o’n datblygiad personol, ac mae’r gwaith y mae sefydliadau fel Maes Ni yn ei wneud yn hanfodol yn hynny o beth.

 

“Roedd y bobl ifanc angerddol y cwrddais i â nhw yn amlwg yn cael llawer o fwynhad o’r prosiect, ac mae’n dda unwaith eto gweld gwaith da’r Loteri Genedlaethol yn ein cymunedau.” 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-08-05 10:16:34 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd