Llwyddiant i ymgyrch Plaid Cymru Bangor wrth wrthwynebu datblygiad 366 o dai Pen-y-ffridd

adeiladu-tai-llun-CC0-640x426.jpg

Mae trigolion lleol a Phlaid Cymru Bangor yn llawenhau bod eu hymgyrch i wrthwynebu datblygiad tai mawr, 366 o gartrefi newydd ym Mhen y Ffridd, Bangor wedi llwyddo!

Gweithiodd Plaid Cymru Bangor yn ddiflino i wrthod y cynllun i ddatblygu cynifer o dai ym Mangor ar sail y buddsoddiad angenrheidiol i isadeiledd yr ardal, y pwysau dybryd sydd eisoes ar wasanaethau cyhoeddus a’r effaith andwyol anochel ar yr iaith Gymraeg yn y ddinas.

Nodir ym mhenderfyniad yr Arolygydd bod diddymu’r ardal o ffin ddatblygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a fabwysiadwyd ym mis Gorffennaf llynedd, wedi cael effaith fawr ar benderfyniad yr Arolygydd Cynllunio i wrthod y cais cynllunio ar gyfer Pen y Ffridd.

Prif ystyriaethau gwrthod yr apêl oedd:

· priodoldeb y safle ar gyfer datblygiad preswyl nad yw wedi ei ddynodi ar gyfer defnydd preswyl yn y cynllun datblygu

· cyflenwad tir ar gyfer tai

· digonolrwydd yr asesiadau ieithyddol a gyflwynwyd

Yn ei llythyr, dywed Ysgrifennydd y Cabinet Llafur, Lesley Griffiths, a ganiataodd y cais cynllunio nôl ym mis Gorffennaf 2017, fod yr Arolygydd o’r farn: “bod y sefyllfa [yng Ngwynedd] wedi newid yn sylweddol yn sgil mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a’i bod yn bosibl y byddai effaith y datblygiad ar y Gymraeg yn newid hefyd. Mae’r Arolygydd yn rhannu pryderon y Cyngor, ac nid yw’n argyhoeddedig bellach fod y wybodaeth a gyflwynwyd yn profi na fyddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar y Gymraeg.”

Cynhaliodd Plaid Cymru Gwynedd drafodaethau lu ac ymgynghoriad cyhoeddus gyda thrigolion lleol yr ardal i wyntyllu barn a gwrthododd aelodau Plaid Cymru’r cais mewn cyfarfod cynllunio rhai misoedd yn ôl.

Yn ôl Gareth Roberts Y Cynghorydd Sir sy’n cynrychioli trigolion yr ardal ar Gyngor Gwynedd: “Buom yn gadarn ein barn o’r dechrau cyntaf. Doedd trigolion yr ardal ddim am weld datblygiad o’r maint yma yn dod i’r Ward, byddai ei effaith wedi bod yn andwyol iawn. Rydym yn ymfalchïo heddiw yn newyddion yr Ysgrifennydd bod yr Arolygydd Cynllunio wedi gwrthod yr hawl i ddatblygu’r tir.”

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Ward ym mis Hydref 2016 i glywed barn pobl leol, a chynrychiolwyd y trigolion lleol gan Y Cynghorydd Roberts, yn ogystal ag eraill o gynghorwyr Plaid Cymru Bangor mewn cyfarfodydd apêl.

"Doedd dim amheuaeth y byddai datblygiad o'r maint yma’n cael effaith enfawr ar fywydau trigolion Bangor. Roedd gwir bryder am effaith datblygiad o’r fath ar yr iaith Gymraeg a diwylliant cyffredinol yr ardal. Diolch byth, mae’r Arolygydd wedi gweld synnwyr yn ein dadleuon ac wedi sicrhau bod tegwch, llais y bobl a’n lleisiau ninnau fel Plaid wedi eu clywed,” meddai Cynghorydd Elin Walker-Jones, Ward Glyder, Bangor.

“Mae gwaith enfawr wedi digwydd i sicrhau bod aelodau’r Ward yn cael tegwch, bod ardal Bangor yn cael chwarae teg a bod Gwynedd gyfan ddim yn cael ei heffeithio’n andwyol gan ddatblygiad o’r maint hwn. Mae heddiw’n ddiwrnod da iawn i’r ardal gyfan!” ychwanegodd Y Cynghorydd Elin Walker-Jones.

Yn ôl Y Cynghorydd Menna Baines, Ward Pentir, Bangor: “Rhaid i ni ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein hymgyrch ac wedi gweithio’n ddiflino gyda ni, yn drigolion lleol, arbenigwyr yn y maes, swyddogion y Cyngor, Aelodau Cynulliad a Seneddol Plaid Cymru a’n staff - mae wedi bod yn waith tîm o’r dechrau i’r diwedd. Mae’n newyddion da iawn i Fangor ac i Wynedd gyfan.”

Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon: "Does dim amheuaeth bod angen tai newydd ar gyfer pobl leol, ond mae angen iddynt fod yn gartrefi o’r math cywir yn y lleoliad cywir ac ar raddfa sy’n dderbyniol i’r ardal leol. Mae’n braf gweld synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd a bod yr Arolygydd Cynllunio yn gweld y problemau all godi o ddatblygu cynifer o dai mewn ardal o Fangor.

"Fel Plaid, byddwn yn parhau i bwyso am gyfundrefn gynllunio sydd yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion lleol a’r iaith Gymraeg. Mae angen i drigolion lleol fod yn hyderus bod Cymru yn cael y grym yn ôl i’w dwylo eu hunain gan benderfynu tynged cymunedau gyda sustem gynllunio Gymreig."


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.