Menter gymdeithasol newydd “arloesol a chynaliadwy”

Mae Beics Antur yn cyflogi ac yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu a chorfforol

 

Un o brosiectau Antur Waunfawr yw Beics Antur, menter gymdeithasol

sy'n darparu cyflogaeth a hyfforddiant i bobl ag anableddau dysgu.

 

Lleolir Beics Antur ym Mhorth yr Aur yng nghanol tref Caernarfon, ac maent yn trosi beiciau cyffredin yn e-feiciau. Mae’r ganolfan hefyd yn lle i'r cyhoedd logi beiciau.

 

Mae gwaith Beics Antur yn ymateb i ddiddordeb cynyddol mewn e-feiciau, ac yn ddiweddar aeth yr Aelod lleol yn y Senedd a'r Aelod Seneddol San Steffan draw i’r ganolfan yng Nghaernarfon.

 

Mae Canolfan Iechyd a Llesiant Beics Antur yn adeilad dau lawr sy'n cynnwys gweithdy a siop, yn ogystal ag Ystafell Llesiant, stiwdio aml-ddefnydd sydd ar gael i'w llogi gan y cyhoedd.

 

Wrth ymweld â Beics Antur, dywedodd Siân Gwenllian AS;

 

“Mae’n wych cael adnodd amlbwrpas fel hyn yn nhref Caernarfon.

 

“Mae Beics Antur yn ymateb i’r angen i feddwl yn greadigol am yr heriau a achosir gan newid hinsawdd, ond bydd elfennau amlsynhwyraidd yr ystafell llesiant yn adnodd gwerthfawr i unigolion ag anableddau difrifol neu nam ar y synhwyrau.

 

“Bellach mae Antur Waunfawr yn cyflogi dros 100 o staff ac yn cefnogi dros 65 o oedolion ag anableddau dysgu. Mae'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn lleol, a’r cyfleoedd maen nhw'n eu darparu yn newid bywydau.

 

“Mae'r gwaith cynaliadwy maen nhw'n ei wneud gyda'r Beics Antur yn benodol yn flaengar iawn.

 

“Yn ddiweddar, rwyf wedi ymweld â phrosiect Dyffryn Gwyrdd yn Nyffryn Ogwen, diwrnod agored canolfan gelfyddydol ym Mangor, Menter Ty’n Llan yn Llandwrog a grŵp cymunedol Maes Ni ym Maesgeirchen, dim ond i enwi rhai.

 

“Mae’n wych gweld bod Arfon yn llawn pobol ddeinamig, mentrau cymunedol, ac egni creadigol, a phob un yn cynnig syniadau newydd i fynd i’r afael â’r heriau niferus sy’n ein hwynebu heddiw.

 

“Hoffwn annog pobl i gefnogi Beics Antur wrth i ni geisio dod o hyd i ffyrdd ecogyfeillgar i ailddefnyddio ac addasu.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2021-10-11 16:54:06 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd