Neges gan Sian Gwenllian a Hywel Williams

 

Wrth i sefyllfa Covid-19 barhau i ddatblygu, dyma ychydig o wybodaeth am ein gwaith fel eich aelodau etholedig yng Nghaerdydd a Llundain. 

Mae Sian yn parhau i weithio yng Nghaerdydd ac yn pwyso yn drwm ar y Llywodraeth yno i weithredu, yn arbennig ar hyn o bryd o ran ei chyfrifoldeb am bolisi addysg. Mae Hywel yn gweithio o Gaernarfon ar hyn o bryd ond mae ganddo lawer i'w wneud yn helpu llunio ein hymateb i ddatblygiadau pwysig yn San Steffan. 

Mae'r ddau yn cadw cysylltiad rheoliad ac agos gyda'i gilydd a gyda aelodau etholedig eraill, gan gynnwys arweinwyr Llywodraeth Leol. Mae'r ddau, a'r staff gwaith achos hefyd yn ymateb i ymholiadau ac achosion sy'n codi o'r firws ynghyd a'r gwaith arferol. 

Yn dilyn cyngor y ddwy Lywodraeth y dylai pawb sy'n gallu gweithio o adra wneud hynny cyn gynted a bod modd, rydym wedi penderfynu cau'r swyddfeydd ym Mangor a Chaernarfon, am y dyfodol agos o leiaf. Felly ar y cyfan bydd ein staff yn gweithio o adra. Bydd hyn yn diogelu ein staff a'r cyhoedd. 

Ni fyddwn yn cynnal cymhorthfeydd wyneb yn wyneb ond yn hytrach yn siarad yn uniongyrchol dros y ffôn neu dros y we. 

Mae croeso i unrhyw un gysylltu a'r swyddfa ar 01286 672076 gydag unrhyw sylw neu bryder neu ar ebost [email protected] / [email protected]


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd