Gosod nwy am ddim i gaffi newydd yn Peblig, Caernarfon

caffi-peblig.png

Mae menter gymunedol ar stad Ysgubor Goch, Caernafon gam yn nes at fedru agor ei drysau ar ol i gwmni nwy Wales and West Utilities wneud gwaith – a hynny i gyd am ddim – er mwyn darparu cyflenwad nwy i’r cynllun. Yr wythnos hon daeth cynrychiolwyr o’r cwmni draw i Ysgubor Goch Caernarfon i gwrdd a rheolwr y fenter, Kenny Khan a’r Aelod Cynulliad lleol Sian Gwenllian.

Rydw i’n ddiolchgar iawn i Wales and West Utilities am roi’r fath hwb i’r datblygiad yma,” meddai Sian Gwenllian. “Mi fydd caffi Cegin Cofi yn diwallu’r angen am fwyd da am bris rhesymol yn ochr Peblig o’r dref, ond mae’r caffi yno i bawb a’r gobaith yw y bydd yn denu cwsmeriaid o bob rhan o Gaernarfon. Mae’n fenter gymdeithasol werth chweil sydd yn haeddu ein cefnogaeth ni i gyd.”

Mae caffi Cegin Cofi yn ddatblygiad newydd yn hanes y cynllun bwyd iach a fforddiadwy a ddechreuodd fel fan fwyd ar stad Ysgubor Goch chwe mlynedd ol. Y cynghorydd tref Plaid Cymru Kenny Khan sydd tu cefn i’r cynllun, sydd eisioes wedi dod a Fareshare i ardal Peblig. Mae Fareshare yn dosbarthu bwyd dros ben gan Tesco Caernarfon i fudiadau sydd yn rhoi cymorth i bobol anghennus, ac mae llawer o fwyd yn cael ei ddosbarthu gan y Cynghorydd Kenny Khan o Ty Peblig.

Bellach mae Kenny Khan a’i fryd ar agor caffi cymunedol a fydd yn gwerthu bwyd iach a fforddadwy i bobl Caernarfon ac a fydd yn cynnig hyfforddiant mewn swydd i’r rhai sydd yn dymuno gwneud gyrfa ym maes arlwyo. Mae peth grantiau wedi dod i law ond mae’r cynllun yn dibynnu’n helaeth ar gyfraniadau gan fusnesau lleol.

Y cwmni diweddaraf i gynnig cymorth yw Wales and West Utilities sydd wedi dod a nwy i’r caffi am ddim. Meddai Mark Oliver, Cyfarwyddwr Busnes a Gwasanaethau Wales and West Utilities:

“Rydym bob amser yn ceisio cefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn angen – a bydd y bwyty yma nid yn unig yn caniatau i bobol gael pryd poeth am bris rhesymol ond mi fydd hefyd yn rhoi cyfle i bobol leol ddatblygu sgiliau.

Rydym wrth ein boddau ein bod wedi medru rhoi help llaw i’r fenter bwysig yma, a gobeithiwn y bydd y gymuned yn cael budd mawr ohono.”

Kenny Khan fydd wrth y popty ac mae yntau’n falch iawn o’r buddsoddiad sylweddol gan Wales and West Utilities.

“Mae’r gwaith ar y cyflenwad nwy wedi bod yn hwb sylweddol i ni, ac rydym yn symyd ymlaen yn llwyddannus yn y gwaith o baratoi’r caffi. Rydw i’n gwybod o fod wedi siarad efo pobol ar y stad bod awydd mawr yma i weld bwyty yn yr ardal – o safbwynt y cwsmer a hyfforddiant – ac rydym wrth ein boddau bod y caffi gam yn nes at fedru agor yn y flwyddyn newydd.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd