Plaid Cymru yn datgelu cynllun adfer 7 pwynt ar gyfer y Coronafeirws

Cynllun Plaid yn galw am fabwysiadu model Seland Newydd o leihau'r rhif ‘R’, gan atal achosion a lleihau nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi i “sero”

Heddiw, mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi datgelu cynllun adfer 7 pwynt ei blaid ar gyfer y Coronafeirws, sy'n galw ar Gymru i fabwysiadu model Seland Newydd o leihau'r rhif ‘R’, atal achosion a lleihau nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi i sero.

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, cyn gynted â bod nifer yr achosion newydd wedi'i leihau yn llwyddiannus yn genedlaethol, y gellid wedyn defnyddio dull “mwy lleol” gyda'r gallu i “roi mesurau cyfyngiadau symud yn ôl ar waith” er mwyn ymateb yn gyflym i ymddangosiad clystyrau newydd.

Dywedodd Mr Price, er mwyn symud yn ddiogel at y cam nesaf ar y llwybr adfer, y byddai'n rhaid i Lywodraeth Cymru “newid gêr” ac anrhydeddu eu haddewidion i “gynyddu profi ac olrhain”.

Ddydd Gwener, fe wnaeth Llywodraeth Cymru estyn y cyfyngiadau symud am 3 wythnos bellach gyda rhai addasiadau “bach a chymedrol”.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS, tra bod cyfradd trosglwyddo'r Coronafeirws yn dal i fod yn “frawychus o uchel”, y dylid anfon y neges i aros gartref ac achub bywydau “yn uchel ac yn glir”.

Heddiw, bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn amlinellu unrhyw newidiadau i'r cyfyngiadau symud yn Lloegr.

Ychwanegodd Mr Price, pe bai'r Prif Weinidog yn “mynnu” llacio'r cyfyngiadau symud yn Lloegr, y “gallai fod angen” gosod cyfyngiadau ar deithio o fewn Cymru a rhwng Cymru a rhannau eraill o'r DU i osgoi “effaith a allai fod yn drychinebus” ar gymunedau Cymru.

 

Meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS,

“Mae cyfradd trosglwyddo'r Coronafeirws yn dal i fod yn frawychus o uchel, a dylid anfon y neges i aros gartref yn uchel ac yn glir. Dyma'r unig ffordd o achub bywydau. Drwy barchu'r cyfyngiadau symud, gallwn adfer yn gyflymach.”

“Os yw'r Prif Weinidog yn mynnu llacio'r cyfyngiadau symud yn Lloegr, gallai fod angen gosod cyfyngiadau ar deithio o fewn Cymru a rhwng Cymru a rhannau eraill o'r DU i osgoi effaith a allai fod yn drychinebus ar ein cymunedau.” 

“Mae cynllun saith pwynt Plaid Cymru yn canolbwyntio ar barhau â'r cyfyngiadau symud. 

“Pan fydd nifer yr achosion newydd wedi'i leihau yn llwyddiannus yn genedlaethol, bydd modd defnyddio dull mwy lleol gyda'r gallu i roi mesurau cyfyngiadau symud yn ôl ar waith yn sydyn er mwyn ymateb i ymddangosiad clystyrau newydd.  

“Mae'n rhaid i'n hymdrechion i gyd nawr ganolbwyntio ar leihau'r rhif R – cyfradd atgynhyrchu'r feirws – er mwyn lleihau nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi i sero. Dyma'r model sydd wedi cael ei fabwysiadu mor llwyddiannus gan Seland Newydd.  

“Er mwyn symud yn ddiogel at y cam nesaf ar y llwybr adfer, bydd angen i Lywodraeth Cymru newid gêr, rhoi'r gorau i'r esgusodion ac anrhydeddu'r addewidion i gynyddu profi ac olrhain.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd