Plaid yn erfyn 'Peidiwch â lladd ein tafarndai'

Mae Aelod o'r Senedd ac Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon wedi erfyn yn daer ar y Llywodraeth Lafur i ailystyried eu polisi didostur dim alcohol i dafarndai ledled y wlad.   

  

Cafodd Siân Gwenllian a Hywel Williams gyfarfod â thafarnwyr o Gaernarfon, Bangor a Bethesda yr wythnos yma i glywed eu pryderon a chytuno â hwy nad oes unrhyw resymeg y tu ôl i'r penderfyniad i atal gweini alcohol mewn tafarndai.  

  

Dywedasant: "Cadw'n ddiogel ac achub bywydau yw'r brif flaenoriaeth o hyd yn ystod y pandemig Covid-19. Hyd yn oed ar ôl cael newyddion da am frechlynnau newydd, bydd yn cymryd misoedd i'w cyflwyno i bawb.  

  

"Yn y cyfamser, mae'n rhaid inni gynnal cydbwysedd call o ran caniatáu i bobl weithio a byw. Bydd cosbi busnesau lletygarwch - tafarndai, bwytai a chaffis - ar ôl blwyddyn ofnadwy yn anfon llawer i'r wal. Peidiwch â lladd ein tafarndai.  

  

"Bydd colli swyddi a busnesau'n cael effaith ofnadwy. Ac nid yw'n gwneud dim synnwyr bod pobl yn cael cyfarfod mewn grwpiau o bedwar o wahanol aelwydydd i gael coffi, ond na chaiff dau o'r un aelwyd fynd am beint.  

  

 "Mae polisi didostur dim alcohol Mark Drakeford wedi taro tafarndai gwerthiant gwlyb a thafarndai bwyd fel ei gilydd, a bydd y rhan fwyaf ar gau nawr tan y Flwyddyn Newydd. Nid yw hynny'n gwneud dim synnwyr pan fo'r un llywodraeth yn caniatáu i bobl groesi'r ffin i Gaer ac yn bellach, sy'n cynyddu'r siawns o drosglwyddo'r feirws.   

  

"Bydd cadw pethau'n ddiogel mewn tafarn drefnus yng Nghymru yn llai o risg na dal y bws olaf adref o Gaer ar ôl noson allan. Mae'n bosibl nad dyna'r unig beth y byddech yn ei ddal."   

  

Mae Plaid Cymru yn galw am gyfaddawd a fyddai'n caniatáu i safleoedd trwyddedig weini alcohol ac aros ar agor tan 8pm.  

  

Ychwanegasant: "Mae tafarndai wedi wynebu baich enfawr dros y misoedd diwethaf - cyflwyno mesurau diogelwch, lleihau niferoedd eu cwsmeriaid a gorfod cyflogi rhagor o staff i reoli'r sefyllfa. Mae angen cefnogaeth briodol i weithwyr a busnesau bach i oresgyn y rhwystr ychwanegol hwn a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae angen mwy o sicrwydd i sicrhau y gall busnesau gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae hynny'n golygu gwell dealltwriaeth gan Lywodraeth Cymru o oblygiadau ehangach gosod pedair gwahanol set o reolau i'n tafarndai a'n bwytai mewn dim ond chwe wythnos.  

  

 "Rydym yn derbyn bod hwn yn gydbwysedd anodd i'w daro ond mae'r rheol ddiweddaraf hon gan Mark Drakeford yn gamgymeriad ac mae Plaid Cymru yn cynnig cyfaddawd call i alluogi pobl i gadw'n ddiogel a byw eu bywydau dros gyfnod y Nadolig." 

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2020-12-04 13:17:03 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd