Problemau yn Llanberis: Canfod ffordd ymlaen.

Mynegodd Siân Gwenllian AS ei phryder am y problemau diweddar ym mhentref Llanberis, gan nodi y ‘bydd yn ceisio gweld beth yw’r ffordd orau ymlaen.’

Yr wythnos hon mae Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi mynegi ei phryder am broblemau sbwriel, gwersylla anghyfreithlon ac ati yn Llanberis.

 

Mae Siân Gwenllian wedi bod mewn trafodaethau gyda Chyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, a Heddlu Gogledd Cymru, ac mae’n falch o gael ar ddeall y bydd camau pwysig yn cael eu cymryd gan y cyrff er mwyn lledfu pryderon trigolion Llanberis.

 

Dywedodd Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn Senedd Cymru;

 

“Rwy’n falch o gael ar ddeall y bydd Cyngor Gwynedd yn cyflogi cwmni diogelwch i sicrhau fod pobl yn ymddwyn yn gyfrifol ym Mharc Padarn. 

 

“Rwy’n falch hefyd o gael gwybod y bydd y cwmni diogelwch yn canolbwyntio ar ardal y Glyn, ar ôl i’r wardeiniad orffen gweithio, a hynny yn sgil cwynion ynglŷn ag achosion o gampio gwyllt a chriwiau yn ymgynnull gyda’r hwyr.”

 

Dywedodd ei bod yn gobeithio y bydd y cwmni’n dechrau gweithio cyn gynted â phosib, ac yn bendant cyn Gŵyl y Banc.

 

Ychwanegodd Siân Gwenllian AS;

 

“Yn ogystal â’r cwmni diogelwch, bydd yr heddlu yn patrolio Llanberis, ac mae wardeniaid Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’u gwirfoddolwyr yn gweithio ddydd a nos i symud pobol ymlaen ac i glirio’r llanast yn y Parc Cenedlaethol.”

 

“Rwy’n falch o gael datgan hefyd fod Cyngor Gwynedd wedi trefnu fod biniau stryd y pentref yn cael sylw ddwy waith y dydd erbyn hyn”

 

Mae’r datganiad yn dod wedi i drigolion y pentref fynegi pryder gwirioneddol am lefel uchel o weithgarwch yn y pentref, yn ogystal â sbwriel ac ymddygiad annerbyniol.

 

Wrth gyfeirio at y sefyllfa, dywedodd Siân Gwenllian AS;

 

“Rwy’n deall ei fod yn gyfnod pryderus i drigolion Llanberis, ac mae nifer yn teimlo’n anniogel yn eu pentref eu hunain. Gwn fod yr awdurdodau yn diolch o galon i’r holl wirfoddolwyr sydd yn casglu sbwriel ac yn gwneud eu gorau glas i gadw’r pentref yn daclus.”

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd