Sefydlwch ymchwiliad cyhoeddus rhag blaen i “ddysgu gwersi nawr” o’r ymateb i Covid-19

Dylai ymchwiliad Cymreig dan arweiniad barnwr gynhyrchu adroddiad interim erbyn diwedd yr haf.

Rhaid cychwyn yn syth ar ymchwiliad heb anwybyddu dim”  i’r ymateb i bandemig COVID-19 yng Nghymru, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price.
Byddai’r ymchwiliad barnwrol yn rhedeg ar y cyd ag ymchwiliad gan farnwr yn y DG, a byddai ei ganfyddiadau cyntaf yn barod erbyn diwedd yr haf.
Dywedodd Mr Price “mae dysgu gwersi i fod â gwybodaeth well er mwyn ymateb yn y dyfodol a gwneud penderfyniadau gwell yn bwysicach na dweud pwy sydd ar fai.”
Ychwanegodd y dylai themâu canolog yr ymchwiliad gynnwys y canlynol:
·  Pa mor barod oeddem ni, a sut gallwn ni wneud yn well?
·  A gollwyd amser gwerthfawr o fis Ionawr ymlaen, e.e., wrth gynllunio ar gyfer CGP/profi?
·  A ddylid bod wedi rhoi mesurau cloi i lawr ar waith yn gynt?
·  Beth sy’n esbonio’r gyfradd uwch o farwolaethau o gymharu â gwledydd eraill?
·  A oedd cyfiawnhad dros roi’r gorau i brofi ac olrhain yng nghanol Mawrth? 
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price;
“Fe all COVID-19 fod gyda ni am beth amser – felly gall aros nes bydd yr argyfwng ar ben nes i ni ddysgu gwersi wthio’r adroddiad terfynol ymlaen lawer blwyddyn i’r dyfodol. 
“Mae’r perygl o ail don yn bosib iawn, a heb frechlyn, fe allwn wynebu gaeaf anodd iawn.
“Mae angen i ni ddysgu gwersi nawr. Byddai sefydlu ymchwiliad yn syth bin i’r modd yr ymatebodd Llywodraeth Cymru yn golygu y gellid dechrau gweithio’n syth tra bod y cof yn dal yn fyw, a gallai’r canfyddiadau cyntaf fod yn barod erbyn diwedd yr haf.
“Gallai ymchwiliad yn y DG ar yr un pryd hefyd edrych i mewn i gwestiynau sy’n ymwneud â meysydd a gadwyd yn ôl megis rheoli ffiniau, pwerau’r heddlu, a’r ymateb economaidd. Ond gallai Cymru osod yr agenda trwy gyhoeddi ei hymchwiliad ymlaen llaw, gan roi esiampl i Lywodraeth y DG y byddai’n rhaid iddynt hwy ei ddilyn.
“Mae dysgu gwersi i fod â gwybodaeth well er mwyn ymateb yn y dyfodol a gwneud penderfyniadau gwell yn bwysicach na dweud pwy sydd ar fai.”
“Dylai ymchwiliad o’r fath fod yn un nad yw’n anwybyddu dim o ran ateb cwestiynau anodd yn llawn ac yn onest. Fydd pobl Cymru – yn enwedig y rhai yr effeithiodd canlyniadau trychinebus y pandemig arnynt yn uniongyrchol – yn disgwyl dim llai.”

 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd