Plaid Cymru Arfon yn lansio Calendr Adfent Tu Chwith
Mae'r gaeaf yn adeg arbennig o anodd i deuluoedd incwm isel gan eu bod yn aml yn gorfod gwneud y dewis anodd rhwng cael digon i'w fwyta a thalu i wresogi eu cartref.
Aelod Cynulliad Arfon yn agor Canolfan Gelfyddydol yn Llanberis
Agorwyd canolfan gelfyddydol newydd Y Festri yn Llanberis gan Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian, gyda dros 300 o bobl leol a chynrychiolwyr sefydliadau celfyddydol yn bresennol.
Siân Gwenllian AC yn cefnogi ‘byw heb ofn’
Dydd Gwener Tachwedd 25 yw Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Merched (International Day for the Elimination of Violence Against Women) ac i nodi a chefnogi’r achlysur, bu Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllian yn ymweld â’r ganolfan sy’n rhedeg y gwasanaeth llinell cymorth genedlaethol o’r enw Byw Heb Ofn, Live Fear Free , sydd mewn lleoliad cyfrinachol yn etholaeth Arfon.
Oedi pellach i gynllun atal llifogydd yr A55 yn 'gwbl annerbyniol' medd yr AC a'r AS leol
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a'r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu eglurhad llawn ynglyn a pham fod mesurau a gynlluniwyd i atal llifogydd ar yr A55 yn Abergwyngregyn dal heb wedi eu rhoi ar waith.
Ymgynghorwyr meddygol yn cefnogi galwad AC Arfon am Ysgol Feddygol ym Mangor
Mae ymgyrch Aelod Cynulliad Arfon Siân Gwenllian dros Ysgol Feddygol ym Mangor yn ennyn cefnogaeth o bob cyfeiriad, ac yn dilyn cefnogaeth myfyrwyr meddygol yr wythnos diwethaf, y rhai diweddaraf i roi eu henwau i’r ymgyrch yw Dr Rhys Davies, Ymgynghorydd Niwrolegol yn Ysbyty Walton, Lerpwl a Mr Phillip Moore, Llawfeddyg Ymgynghorol yn yr adran Clust, Trwyn a Gwddf yn Ysbyty Gwynedd Bangor.
Cymhorthfa arbennig i helpu pobl lleol â biliau dŵr
Gallai cwsmeriaid arbed hyd at £250 ar eu biliau dŵr.
Ymgyrch USDAW – ‘Cadw Eich Cŵl Adeg Nadolig’
Gyda’r Nadolig yn agosáu yn sydyn, nod ‘Ymgyrch Rhyddid Heb Ofn’ Usdaw yw tynnu sylw at atal trais, bygythiadau a chamdriniaeth i weithwyr siop. Darganfyddodd arolwg blynyddol diweddar Usdaw, sef undeb y gweithwyr siop a dosbarthu, bod 300 o weithwyr siop yn cael eu cam-drin tra yn eu gwaith pob dydd.
Gwely blodau lliwgar Maesgeirchen
Agorwyd gwely flodau lliwgar gan yr Aelod Cynulliad Siân Gwenllian ger mynedfa un o stadau tai mwyaf Cymru, ym Maesgeirchen, Bangor.