Galw am eglurder ynglŷn â chynllun datblygu Parc Bryn Cegin
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian yn galw am eglurder ynglŷn â chynydd yn natblygiad Parc Bryn Cegin ger Bangor, flwyddyn ers i ymgyrchwyr lleol lwyddo i ddwyn perswad ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo rhan o’r safle 90 acer ar gyfer dibenion hamdden.
Myfyrwyr o ogledd Cymru yn cefnogi galwad AC Arfon am Ysgol Feddygol i Fangor
Mae’r cytundeb cyllidol a wnaethpwyd rhwng Plaid Cymru a Llafur yn y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnwys cyllid ar gyfer datblygu Ysgol Feddygol i Fangor. Cadarnhawyd hyn gan AC Arfon Siân Gwenllian sydd wedi bod yn ymgyrchu’n galed dros hyfforddiant meddygon yng ngogledd Cymru ers ei hethol bum mis yn ol.
AC yn galw am fwy o ymchwil i farwolaethau babanod cyn eu geni
Yn dilyn adroddiad newydd gan elusen SANDS (Stillbirth and Neo-Natal Death Charity) mae AC Arfon Siân Gwenllian yn galw am fwy o ymchwil i farwolaethau cyn geni. Dengys astudiaeth newydd o ysbyty Great Ormond Street a arianwyd gan SANDS mai dim ond 1 ymhob 4 teulu sydd yn cael gwybod pam y bu farw eu baban.
AC Plaid Cymru yn gosod allan bedwar egwyddor ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn effeithiol
Wrth siarad yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, datganodd AC Plaid Cymru, Sian Gwenllian, bedwar egwyddor ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn effeithiol.
AC Arfon yn galw am yngynghoriad newydd ar wasanaethau fasciwlar
Mae AC Arfon, Sian Gwenllian, wedi galw ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gynnal ymgynghoriad newydd, lawn a thryloyw ar ddyfodol gwasanaethau fasciwlar yng ngogledd Cymru.
Mae Siân Gwenllian yn annog pobl mewn grwpiau ‘risg’ i gael y brechiad ffliw rhad ac am ddim
Mae Siân Gwenllian yn annog pawb sy’n gymwys i gael y brechiad ffliw rhad ac am ddim i amddiffyn eu hunain rhag cael neu ledu ffliw, salwch sy’n eich gwanhau’n ddifrifol ac sy’n gallu lladd.
Deiseb: Achub gwasanaethau fasgwlaidd ac arennol yn Ysbyty Gwynedd
Llofnodwch y ddeiseb yma: https://you.38degrees.org.uk/petitions/save-vascular-and-renal-services-in-ysbyty-gwynedd
Plaid Cymru yn addo arian sylweddol i Arfon mewn bargen ar y gyllideb
Mae Plaid Cymru wedi sicrhau bargen ar y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru fydd yn dod â manteision sylweddol i Arfon, medd AC y Blaid dros Arfon, Siân Gwenllian.